Ar ôl i sefydliad dderbyn Hysbysiad Cydymffurfio, mae gan y sefydliad hawl i herio'r angen i gydymffurfio â safon i’r Comisiynydd os nad yw’n cytuno bod dyletswydd yn rhesymol a chymesur.
Os bydd y Comisiynydd yn dyfarnu nad yw’r gofyniad mewn Hysbysiad Cydymffurfio yn afresymol neu’n anghymesur, mae gan y sefydliad yna hawl i apelio yn erbyn y dyfarniad i Dribiwnlys y Gymraeg.