Adroddiadau perfformiad

Poster Iaith Gwaith ar ddesg

Dros y blynyddoedd diwethaf,  rydym wedi cyhoeddi adroddiadau yn flynyddol sydd yn nodi ei chanfyddiadau a’i barn ar y ffordd y mae sefydliadau’n perfformio yn unol â’u dyletswyddau iaith o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r Comisiynydd hefyd yn cyflwyno ei barn am brofiadau pobl wrth iddyn nhw geisio defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg.

Merch yn eistedd tu ol i gownter

Roedd yr adroddiadau yn seiliedig ar dystiolaeth oedd wedi ei gasglu yn ystod y flwyddyn oedd yn cynnwys: 

  • gwaith monitro: arolygon profiad defnyddwyr, gwirio adroddiadau blynyddol a chofnodion, ac astudiaethau thematig. 
  • ymgysylltu â defnyddwyr: cynnal digwyddiadau amrywiol ar hyd a lled Cymru er mwyn clywed am brofiadau pobl. 
  • cyswllt â sefydliadau: cynnal cyfarfodydd a  gweithdai. 

Gall sefydliadau ddefnyddio’r adroddiadau isod i wella sut maent yn gweithio. Rydym yn annog sefydliadau i ystyried canfyddiadau’r adroddiadau a chymharu eu perfformiad nhw  yn erbyn y tueddiadau sy’n cael eu nodi yn yr adroddiad.