Rydym wedi cynnal sawl darn allweddol o ymchwil dros y blynyddoedd ar feysydd sy’n ymwneud â busnesau ac elusennau.
Gweithiwyd gyda nifer o gwmnïau ymchwil annibynnol. Mae’r adroddiadau isod yn dangos yr amryw fuddion o gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg ac yn rhannu enghreifftiau real o’r gwaith sydd eisoes yn digwydd.
Mae’r adroddiad hwn ar gyfer arweinwyr busnes sydd eisiau datblygu ac ehangu yng Nghymru. Mae’n edrych ar y galw gan gwsmeriaid am wasanaethau Cymraeg, barn arweinwyr busnes a sut gall y Comisiynydd eich helpu i dyfu a ffynnu.
Agweddau cwsmeriaid at ddefnydd o'r Gymraeg gan archfarchnadoedd.
Mae cynnyrch bwyd a diod o'r safon gorau yng Nghymru ond beth yw rôl y Gymraeg? Holwyd amryw o fusnesau ar draws Cymru am eu defnydd nhw o'r Gymraeg - o frandio a marchnata i wasanaeth cwsmer a staffio - er mwyn deall yn well beth yw gwerth y Gymraeg i'w busnes.