Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi datganiad polisi rheoleiddiol newydd sy’n amlinellu disgwyliadau clir ar sefydliadau sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial (DA) wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd. Mae’r datganiad yn pwysleisio bod rhaid i dechnolegau newydd gynnal a hyrwyddo’r Gymraeg, ac nad yw’r defnydd ohonynt yn esgus dros fethu â chydymffurfio â dyletswyddau iaith Gymraeg.
Yn ganolog i’r polisi mae’r egwyddor ragofalus: dull rheoleiddio sy’n ceisio manteisio ar gyfleoedd technolegol tra’n gweithredu’n rhagweithiol i warchod hawliau ieithyddol. Mae hyn yn golygu bod disgwyl i sefydliadau brofi systemau DA yn benodol yn Gymraeg, sicrhau tryloywder ynghylch sut mae’r systemau’n gweithio, a chynnal safonau iaith uchel.
Mae’r polisi’n nodi egwyddorion craidd ar gyfer defnyddio DA mewn ffordd foesegol, gynhwysol ac atebol, gan gynnwys:
- tegwch ieithyddol,
- cywirdeb a naturioldeb iaith,
- diogelwch data a phreifatrwydd,
- a cydymffurfiaeth barhaus â safonau’r Gymraeg.
Deallusrwydd Artiffisial a’r Gymraeg: Datganiad Polisi Rheoleiddiol Comisiynydd y Gymraeg