Rydym yn awyddus i glywed eich barn ar ein Cynllun Strategol drafft ar gyfer 2025-2030.
Hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg yw ein gwaith ni. Drwy wneud hynny rydym yn cyfrannu at wireddu ein gweledigaeth o Gymru lle gall pobl fyw eu bywydau yn Gymraeg.
Mae ein Cynllun Strategol drafft yn egluro ein amcanion strategol, ein themâu arbennig, a’r ffyrdd fyddwn ni’n gweithredu dros y pum mlynedd nesaf.
Amcanion Strategol
Amcan 1: Cynyddu’r gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg
Amcan 2: Hyrwyddo defnydd o wasanaethau Cymraeg
Amcan 3: Cynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ehangach
Themâu Arbennig
Ar gyfer cyfnod 2025–30 mae gennym dair thema fydd yn flaenoriaeth er mwyn cyflawni ein hamcanion strategol a gwireddu ein gweledigaeth:
Iechyd a gofal
Mae gallu defnyddio’r Gymraeg wrth dderbyn gwasanaethau iechyd a gofal yn hollbwysig, yn arbennig gan y byddwn yn aml mewn sefyllfa o wendid pan fyddwn ni’n ceisio derbyn y gwasanaethau hynny. Rydym yn dymuno gweld cynnydd yn y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg â’r sector iechyd a gofal yn gyffredinol, ac â’r elusennau sy’n gweithio yn y sector, gan gynnwys pwyslais ar sicrhau bod pobl yn derbyn gofal clinigol yn Gymraeg.
Y gweithle
Mae’n hanfodol bod siaradwyr Cymraeg sy’n gadael yr ysgol yn parhau i ddefnyddio’r iaith wrth fynd ymlaen yn eu haddysg ac i fyd gwaith. Yr her yw cynnal sgiliau Cymraeg ein pobl ifanc a throi siaradwyr yn ddefnyddwyr tymor hir. Rhan allweddol o sicrhau’r dilyniant ieithyddol hwn yw galluogi pobl i weithio yn y Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae canolbwyntio ar gynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle â’r potensial i ddylanwadu ar ganfyddiad pobl o bwysigrwydd yr iaith, ar gyfleoedd i fagu hyder ieithyddol, ac ar ddefnydd ehangach o’r Gymraeg yn y gymuned.
Plant a phobl ifanc
Y bobl ifanc sy’n dysgu’r Gymraeg heddiw fydd yn defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, yn y gymuned ac wrth ddefnyddio gwasanaethau yn y dyfodol. Bydd eu hagweddau at y Gymraeg a’u harferion wrth ei defnyddio yn awr yn effeithio ar eu defnydd o’r Gymraeg yn y dyfodol, a hefyd eu penderfyniadau ynghylch ei throsglwyddo i’r genhedlaeth nesaf. Rydym am weld pob plentyn, waeth beth fo’u cefndir yn teimlo bod y Gymraeg yn perthyn iddyn nhw, a bod gan bawb gyfle cyfartal i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.
Sut fyddwn i’n cyflawni hyn?
Rheoleiddio
- Defnyddio ein pwerau rheoleiddio er mwyn sicrhau bod sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu yn unol a’u dyletswyddau iaith Gymraeg, a drwy hynny yn sicrhau cynnydd yn y gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i bobl Cymru.
- Canolbwyntio ar wella sut mae sefydliadau yn hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg.
- Gweithredu dull rhagweithiol o gyd-reoleiddio gan ganolbwyntio ar feysydd strategol bwysig fel strategaethau hybu a chynyddu defnydd y Gymraeg o fewn gweithleoedd.
Hybu
- Annog sefydliadau yn y sector preifat a'r trydydd sector i gynyddu'r gwasanaethau maent yn eu darparu yn y Gymraeg, a drwy hynny sicrhau bod mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg mewn gweithgareddau cymdeithasol a gwirfoddol, ac wrth dderbyn gwasanaethau pwysig.
- Sicrhau bod busnesau ac elusennau yn codi ymwybyddiaeth o'u gwasanaethau Cymraeg ac yn annog mwy o bobl i'w defnyddio.
Dylanwadu a Chyfathrebu
- Craffu ar bolisi a deddfwriaeth mewn meysydd allweddol fel addysg a sgiliau, iechyd a gofal, cynllunio, tai a datblygu economaidd.
- Cyhoeddi adroddiadau polisi ar sefyllfa'r Gymraeg mewn meysydd polisi pwysig.
- Cyfrannu at sail dystiolaeth am y Gymraeg, cyfnewid gwybodaeth, ymchwil ac arfer da yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
- Cynnal ymgyrchoedd cyfathrebu i dynnu sylw at y cyfleoedd sydd i ddefnyddio'r Gymraeg a rhannu arfer da am sut mae sefydliadau yn cynllunio'r ffordd y byddant yn darparu gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd.