Mae gan y Comisiynydd gynllun strategol corfforaethol am y cyfnod 2022 i 2025, sy’n egluro ein gweledigaeth a’n gwerthoedd, ein pwerau statudol a’n hamcanion strategol. Ar hyn o bryd rydym yn ymgysylltu ar ein cynllun strategol drafft newydd 2025 - 2030.
Prif nod statudol y Comisiynydd yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Wrth wneud hynny, rhaid i’r Comisiynydd weithio tuag at gynyddu darpariaeth gwasanaethau Cymraeg a chyfleoedd eraill i bobl ddefnyddio’r iaith.
Rhaid i’r Comisiynydd hefyd roi sylw i :
- statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru
- y dyletswyddau i ddefnyddio’r Gymraeg sydd wedi eu gosod drwy safonau’r Gymraeg, a’r hawliau sy’n deillio o orfodi’r dyletswyddau hynny
- yr egwyddor na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru
- a’r egwyddor y dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Mesur y Gymraeg
Caiff pwerau a chyfrifoldebau’r Comisiynydd eu gosod yn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Cafodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Rhagfyr 2010 a derbyniodd gydsyniad brenhinol gan Ei Mawrhydi ar 9 Chwefror 2011.
Mae’r Mesur yn:
- Datgan bod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru;
- Creu swydd Comisiynydd y Gymraeg.
Sefydlu’r canlynol:
- Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Panel Cynghori ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg
- Tribiwnlys y Gymraeg
Gwneud darpariaeth ar gyfer y canlynol:
- Hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg a pheidio a thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;
- Safonau’r Gymraeg, gan gynnwys dyletswyddau i gydymffurfio gyda’r Safonau hynny a hawliau sy’n deillio o allu gorfodi’r Safonau hynny;
- Ymchwilio i’r ymyrraeth â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg.