Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yw’r ddeddfwriaeth wnaeth greu safonau’r Gymraeg.
Mae'r safonau yn hybu a hwyluso’r Gymraeg, ac yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru.
Mae sefydliadau yn gorfod cydymffurfio â safonau yn y meysydd canlynol:
- Cyflenwi gwasanaethau
- Llunio polisi
- Gweithredu
- Hybu
- Cadw cofnodion
Gosod a gorfodi safonau
Mae’r Comisiynydd yn gallu gosod dyletswyddau ar sefydliadau i ddefnyddio'r Gymraeg.
Mae’r hawliau yn galluogi siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith wrth ymwneud â’r sefydliadau.
Mae gan y Comisiynydd hefyd bŵer i orfodi’r safonau sydd wedi’u gosod ar sefydliad.