Mae’r Comisiynydd yn cyhoeddi adnoddau a dogfennau cyngor amrywiol er mwyn cefnogi’r gwaith o gynyddu defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru.
Sefydliadau cyhoeddus
Mae timau Hyrwyddo Cydymffurfiaeth y Comisiynydd yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i sefydliadau a chyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu Safonau’r Gymraeg a Chynlluniau Iaith Gymraeg.
Byddwn yn cynnig amrywiaeth o ganllawiau ac adnoddau er mwyn hwyluso’r gwaith o gydymffurfio efo’r safonau a gweithredu cynlluniau iaith. Ar y tudalennau yma, gallwch weld codau ymarfer ac adnoddau i gefnogi hunanreoleiddio gan sefydliadau, yn ogystal ac adnoddau ymarfer am faterion allweddol megis:
- Gweithleoedd
- Hybu’r Gymraeg
- Penderfyniadau Polisi
Bydd rhaglen o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu gan y timau hyrwyddo i rannu gwybodaeth ac arferion da. Mae gwybodaeth am y rhaglen honno ar gael yma.
Busnesau ac elusennau
Mae tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio gyda busnesau ac elusennau o bob math, o fanciau ac archfarchnadoedd i elusennau cenedlaethol a rhyngwladol.
Gall defnyddio’r Gymraeg arwain at ddenu cwsmeriaid a chefnogwyr newydd, yn ogystal â chynyddu enw da eich busnes neu elusen. Bydd cynyddu eich defnydd o’r Gymraeg yn eich helpu i ddarparu gwell gwasanaeth, ac yn yr adran yma mae adnoddau ar gael i’ch cynorthwyo.
Yma gallwch:
- ddarllen ein canllawiau sydd yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i ddefnyddio rhagor o Gymraeg yn eich sefydliad
- ddarganfod ein darnau allweddol o waith ymchwil sy’n ymwneud a busnesau ac elusennau
- ddysgu am ein sesiynau hyfforddiant, sydd wedi eu cynllunio er mwyn rhannu arferion gorau
- weld beth yw’r manteision o ddefnyddio’r Gymraeg yn y byd chwaraeon
Gall y tîm Hybu esbonio sut i gynllunio yn effeithiol a hwylus i wneud y Gymraeg yn rhan o’ch gweithgareddau bob dydd. Cysylltwch gyda ni am sgwrs: hybu@cyg-wlc.cymru