Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn ei gwneud yn ofynnol ar sefydliadau cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i baratoi Cynllun Iaith Gymraeg.
Mae cynllun iaith yn egluro sut mae sefydliad yn sicrhau ei fod yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n rhaid i’r cynlluniau dderbyn cymeradwyaeth y Comisiynydd. Bydd y Comisiynydd hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i sefydliadau wrth iddyn nhw baratoi a gweithredu eu cynlluniau.
Mae cyngor statudol ar baratoi cynllun iaith Gymraeg i’w gweld yma.
Mae dyletswydd statudol ar y sefydliadau i gydymffurfio gyda’r cynllun iaith. Mae’r Comisiynydd yn monitro sut mae sefydliadau yn gweithredu’r cynlluniau iaith drwy ei chynllun hyrwyddo cydymffurfiaeth.
Goruchwylio cydymffurfiaeth
Mae dyletswydd ar sefydliadau i oruchwylio eu cydymffurfiaeth â’u cynlluniau iaith. Mae’n bwysig bod gan sefydliadau drefniadau cadarn ar gyfer hunan reoleiddio. Mae arolygon y Comisiynydd wedi dangos bod gan y sefydliadau hynny sy’n perfformio orau brosesau cadarn mewn lle i fonitro, gwirio a goruchwylio cydymffurfiaeth.
Mae pob sefydliad sydd yn gweithredu cynllun iaith Gymraeg wedi ymrwymo i gyhoeddi adroddiad monitro yn flynyddol. Dylai’r adroddiad gynnwys gwybodaeth am sut mae’r sefydliad wedi gweithredu ei gynllun iaith yn ystod y flwyddyn gan adrodd ar gynnydd yng ngweithrediad unrhyw dargedau o fewn amserlen y cynllun. Dylai’r adroddiad hefyd gynnwys dadansoddiad o gwynion sydd wedi eu derbyn ystod y flwyddyn gan adrodd ar nifer a natur y cwynion a’r camau a roddwyd ar waith i ddatrys unrhyw fethiannau.
Os yw’r Comisiynydd o’r farn bod sefydliad yn methu â gweithredu yn unol â chymalau neu ymrwymiadau ei gynllun iaith, gall gynnal ymchwiliad er mwyn dod i benderfyniad os yw’r sefydliad yn cydymffurfio neu beidio.