Hyrwyddo Gwasanaethau Sefydliadau Cyhoeddus
Adran Gwaith a Phensiynau
- Mae gwasanaeth Credyd Cynhwysol ar gael yn llawn yn Gymraeg, gan gynnwys cymorth ariannol misol a cheisiadau ar-lein.
- Mae’r gwasanaeth “Dod o Hyd i Swydd” yn galluogi chwilio am gyfleoedd gwaith yn Gymraeg ledled Cymru.
- Mae eu gwefan yn cynnwys gwybodaeth fanwl am fudd-daliadau anabledd, pensiynau a chymorth gofalwyr yn Gymraeg.
- Maent yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn ymateb yn yr un iaith.
- Mae’r Gymraeg yn cael ei chynnig fel iaith gyfathrebu safonol ar draws eu gwasanaethau cymdeithasol ac ariannol.
Amgueddfa Cymru
- Teulu o saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau yw Amgueddfa Cymru.
- Cynigir mwy nag adeiladau – mae eu hamgueddfeydd yn ganolfannau cymunedol pwysig sy’n ymestyn tu hwnt i'w milltir sgwâr.
- Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o brofiad yr ymwelydd, boed yn wyneb yn wyneb neu’n ddigidol.
- Ceir amrywiaeth o arddangosfeydd a rhaglen addysg gynhwysfawr gyda'r Gymraeg i'w gweld, ei chlywed, ei defnyddio ac yn gyfle i ddathlu’r Gymraeg ym mhob un o'i safleoedd:
- Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
- Amgueddfa Lechi Cymru
- Amgueddfa Wlân Cymru
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
- Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
- Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA)
- Mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer eu gwaith yng Nghymru, ac mae adroddiadau arolygu ar gael yn ddwyieithog.
- Cynhelir cyfarfodydd yn Gymraeg gyda chyfieithu ar gael os oes angen, gan gynnwys cyfarfodydd gyda darparwyr addysg.
- Mae eu gwefan yn cynnwys tudalennau penodol ar gyfer y Gymraeg, gan sicrhau mynediad cyfartal i wybodaeth.
- Maent yn gweithio gyda mudiadau fel Medr i gryfhau profiad myfyrwyr cyfrwng Cymraeg.
- Maent yn gweld cyflogi staff dwyieithog yn fantais i’r sefydliad ac yn cefnogi digwyddiadau sy’n hybu’r Gymraeg.
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
- Gan ddefnyddio gwasanaeth Cymraeg yr Asiantaeth Drwyddedu Cerbydau mae modd trethu cerbyd ac adnewyddu treth cerbyd neu ddiweddaru gwybodaeth am brynu/gwerthu cerbyd yn Gymraeg.
- Ceir adnodd lle medrir mewngofnodi i’ch cyfrif gyrwyr a cherbydau i weld cofnodion a derbyn nodiadau atgoffa yn Gymraeg gan yr Asiantaeth;
- Mae modd hefyd i ddiweddaru’r Asiantaeth am unrhyw newid mewn perchnogaeth cerbyd drwy werthiant, trosglwyddo neu brynu cerbyd
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yw rheoleiddiwr cenedlaethol ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gweithle.
- Mae’r Awdurdod yn gweithio i ddiogelu pobl a lleoedd drwy atal marwolaethau, anafiadau ac afiechydon sy’n gysylltiedig â’r gweithle.
- Drwy eu gwasanaethau ar lein, mae modd cofrestru i dderbyn dogfennau canllaw allweddol yn Gymraeg.
- Mae modd tanysgrifio i gylchlythyr e-bost Cymru i dderbyn diweddariadau perthnasol Yr Awdurdod i Gymru yn Gymraeg.
- Mae modd cysylltu â’r HSE yn Gymraeg drwy e-bost ar iaithgymraeg@hse.gov.uk.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi ymrwymo’n llwyr i’r egwyddor o alluogi a chefnogi siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’u hiaith ym mhob agwedd o’u bywydau ac yn cydnabod ei gyfrifoldeb i hwyluso a hyrwyddo’r defnydd hwn.
- Dyma enghreifftiau o wasanaethau a ddarperir gan yr Awdurdod drwy gyfrwng y Gymraeg:
• Y gwasanaeth addysg/ysgolion sy’n gallu cyflwyno sesiynau yn yr iaith y mae’r Ysgol yn ei ffafrio;
• Marchnata/hyrwyddo, er enghraifft, drwy ddatganiadau i’r wasg yr Awdurdod a’i negeseuon ar Facebook ac Instagram;
• Yr ymgynghoriad ar yr adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol 2 yr Awdurdod. - Ceir mwy o fanylion am wasanaethau'r Parc ar ei gwefan isod.
BBC Cymru
Mae'r BBC, fel darlledwr cyhoeddus mwyaf y Deyrnas Unedig yn cynnig ystod eang o wasanaethau digidol i'r cyhoedd yng Nghymru.
- Mae canran uchel o’u llwyfannau digidol ar gael yn Gymraeg, gan gynnwys BBC Sounds, BBC iPlayer, BBC Cymru Fyw a BBC Bitesize.
- Gall defnyddwyr bersonoli elfennau gweinyddol o’r apiau yn Gymraeg.
- Mae gwasanaethau cyswllt ar gael yn Gymraeg drwy ffôn, e-bost, llythyr neu wyneb yn wyneb.
- Mae eu gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys cynnwys dwyieithog, gyda’r Gymraeg yn cael ei chynrychioli’n weledol.
- Maent yn hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan annatod o’u gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn darparu gwasanaethau iechyd ar draws siroedd Blaenau Gwent, Mynwy, Casnewydd, Torfaen a Chaerffili.
- Darperir gwasanaethau a gofal iechyd mewn ysbytai ac yn y gymuned drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae modd i’r cyhoedd dderbyn gwasanaethau meddygol mewn canolfannau arbenigol megis radiotherapi yn ysbyty Nevill Hall, gyda chyfleusterau trin canser ar gael yn Gymraeg yn ysbytai’r bwrdd iechyd.
- Mae modd i gleifion gyfathrebu â meddygon teulu, optegwyr a deintyddion yn Gymraeg lle bo’n bosibl.
Canolfan Mileniwm Cymru
- Mae modd i gwsmeriaid gysylltu â’r Ganolfan mewn nifer o ffyrdd yn Gymraeg a Saesneg.
- Mae ‘sgwrsbot’ dwyieithog y Ganolfan yn medru ateb ymholiadau syml yn ddwyieithog. Os nad oes modd ateb eich ymholiad, mae modd o drosglwyddo’r ymholiad i aelod o staff gan ar y ‘sgwrsbot’.
- Mae modd cysylltu gyda’r Ganolfan yn Gymraeg dros ffôn neu wyneb yn wyneb.
- Gall ddefnyddwyr y Ganolfan dderbyn cymorth gan siaradwyr Cymraeg wrth y Ddesg Wybodaeth yn y bar-caffi ‘Ffwrnais’.
- Medrir archebu tocynnau am unrhyw ddigwyddiadau neu ateb unrhyw ymholiad gan gwsmeriaid yn ddwyieithog, gan gynnwys trosglwyddo i aelod o staff Cymraeg eu hiaith os dymunir.
CITB
- Mae eu Tîm Ymgysylltu Cymraeg yn cynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog i gyflogwyr, prentisiaid a rhanddeiliaid.
- O fewn hyfforddiant adeiladu, gallent ddelio â phob ymholiad neu gyngor gyrfa drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae’r wefan “Go Construct” a’r broses archebu prawf HS&E ar gael yn ddwyieithog.
- Maent yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn ymateb yn yr un iaith.
- Mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo fel iaith waith yn y sector adeiladu ledled Cymru.
Cofrestrfa Tir Ei Fawrhydi
- Mae’r Gofrestrfa Tir yn hapus i dderbyn ymholiadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
- Drwy eu gwasanaethau ar-lein, mae modd chwilio am wybodaeth am eiddo, y math o berchnogaeth eiddo, manylion perchennog a gwybodaeth am brisiau tai ac eiddo yn Gymraeg.
- Mae modd cael mynediad at wybodaeth am berchnogaeth eiddo a gwerthiannau blaenorol, yn ogystal a prisiau cyfartalog eiddo yng Nghymru a Lloegr ers 1995, Yr Alban ers 2004 a Gogledd Iwerddon ers 20025 drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Ceir hefyd mwy o fanylion am wasanaethau eraill Cofrestrfa Tir Ei Fawrhydi ar https://www.gov.uk/government/organisations/land-registry/about/welshj-language-scheme.cy
Colegau Cymru
- Drwy eu gwaith polisi ac eiriolaeth, mae Colegau Cymru yn sicrhau bod y Gymraeg wedi’i hymgorffori ym mhob agwedd o’u gwaith.
- Ceir cydweithio agos â sefydliadau fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Medr, a Cymwysterau Cymru i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.
- Mae Colegau Cymru yn sicrhau bod myfyrwyr yn medru elwa o brosiectau datblygu sy’n cynnwys y Gymraeg fel elfen graidd.
- Mae Rhaglen Ddatblygu’r sefydliad yn cyfoethogi profiadau dysgu ac yn gwella canlyniadau ar draws y sector addysg bellach.
- Rhoddir ffocws ar feysydd megis lles corfforol a meddyliol ac anghenion dysgu ychwanegol.