Mae'r iaith Gymraeg yn rhan bwysig o dreftadaeth ddiwylliannol Eryri. Mae'n iaith fyw sy’n rhan annatod o fywyd bob dydd yr ardal. Felly, mae'r Awdurdod yn falch o adlewyrchu'r ardal y mae'n ei wasanaethu.
Mae’r gwasanaethau mae’r Awdurdod yn gynnig yn ddwyieithog yn cynnwys:
• Gwasanaeth Cwsmeriaid
• Gwefan a sianeli cyfryngau digidol
• Gwasanaeth a phrosesau Cynllunio
• Hyrwyddo’r defnydd o enwau Cymraeg y Parc Cenedlaethol
• Digwyddiadau a gweithgareddau cyhoeddus
• Deunyddiau print
• Ymgynghoriadau ac ymgysylltu cyhoeddus
• Dehongli ac arwyddion