• Drwy ein gwasanaethau ffôn ac ar-lein, mae'n bosibl cysylltu ag AOC yn y Gymraeg dros y ffôn ar 03300 580845, drwy e-bost yn gwybodaeth@addysgoedolion.cymru neu drwy'r wefan yn www.addysgoedolion.cymru
• Mae ein gwefan, ein deunyddiau marchnata, a'n cyfathrebiadau â dysgwyr yn ddwyieithog, gyda'r Gymraeg yn cael ei chynrychioli'n gyfartal.
• Mae AOC yn cynnig cyfle i'w ddysgwyr gael mynediad at ddarpariaeth ddwyieithog ac mae hefyd yn cynnig cyfle i ddysgwyr ESOL ddysgu'r Gymraeg drwy ei gyrsiau WSOL.
• Anogir staff AOC i ddysgu'r Gymraeg.
• Mae AOC yn gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid strategol fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, i gefnogi Cymraeg 2050.