Hyrwyddo Gwasanaethau Sefydliadau Cyhoeddus
Canolfan Mileniwm Cymru
- Mae modd i gwsmeriaid gysylltu â’r Ganolfan mewn nifer o ffyrdd yn Gymraeg a Saesneg.
- Mae ‘sgwrsbot’ dwyieithog y Ganolfan yn medru ateb ymholiadau syml yn ddwyieithog. Os nad oes modd ateb eich ymholiad, mae modd o drosglwyddo’r ymholiad i aelod o staff gan ar y ‘sgwrsbot’.
- Mae modd cysylltu gyda’r Ganolfan yn Gymraeg dros ffôn neu wyneb yn wyneb.
- Gall ddefnyddwyr y Ganolfan dderbyn cymorth gan siaradwyr Cymraeg wrth y Ddesg Wybodaeth yn y bar-caffi ‘Ffwrnais’.
- Medrir archebu tocynnau am unrhyw ddigwyddiadau neu ateb unrhyw ymholiad gan gwsmeriaid yn ddwyieithog, gan gynnwys trosglwyddo i aelod o staff Cymraeg eu hiaith os dymunir.
CITB
- Mae eu Tîm Ymgysylltu Cymraeg yn cynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog i gyflogwyr, prentisiaid a rhanddeiliaid.
- O fewn hyfforddiant adeiladu, gallent ddelio â phob ymholiad neu gyngor gyrfa drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae’r wefan “Go Construct” a’r broses archebu prawf HS&E ar gael yn ddwyieithog.
- Maent yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn ymateb yn yr un iaith.
- Mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo fel iaith waith yn y sector adeiladu ledled Cymru.
Cofrestrfa Tir Ei Fawrhydi
- Mae’r Gofrestrfa Tir yn hapus i dderbyn ymholiadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
- Drwy eu gwasanaethau ar-lein, mae modd chwilio am wybodaeth am eiddo, y math o berchnogaeth eiddo, manylion perchennog a gwybodaeth am brisiau tai ac eiddo yn Gymraeg.
- Mae modd cael mynediad at wybodaeth am berchnogaeth eiddo a gwerthiannau blaenorol, yn ogystal a prisiau cyfartalog eiddo yng Nghymru a Lloegr ers 1995, Yr Alban ers 2004 a Gogledd Iwerddon ers 20025 drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Ceir hefyd mwy o fanylion am wasanaethau eraill Cofrestrfa Tir Ei Fawrhydi ar https://www.gov.uk/government/organisations/land-registry/about/welshj-language-scheme.cy
Colegau Cymru
- Drwy eu gwaith polisi ac eiriolaeth, mae Colegau Cymru yn sicrhau bod y Gymraeg wedi’i hymgorffori ym mhob agwedd o’u gwaith.
- Ceir cydweithio agos â sefydliadau fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Medr, a Cymwysterau Cymru i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.
- Mae Colegau Cymru yn sicrhau bod myfyrwyr yn medru elwa o brosiectau datblygu sy’n cynnwys y Gymraeg fel elfen graidd.
- Mae Rhaglen Ddatblygu’r sefydliad yn cyfoethogi profiadau dysgu ac yn gwella canlyniadau ar draws y sector addysg bellach.
- Rhoddir ffocws ar feysydd megis lles corfforol a meddyliol ac anghenion dysgu ychwanegol.
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
- Mae canran uchel o’u staff addysgu ac allgymorth yn gallu cynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog mewn Cerddoriaeth a Drama.
- O fewn eu gweithdai a phrosiectau partneriaeth, gallent ddelio â phob ymholiad neu sesiwn drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae’r Ganolfan Gelfyddydau, rhaglenni, arwyddion a chyhoeddiadau cyhoeddus yn ddwyieithog.
- Maent yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn ymateb yn yr un iaith.
- Mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo’n weithredol mewn perfformiadau gydag is-deitlau.
- Ceir presenoldeb gan y Coleg mewn digwyddiadau cenedlaethol fel Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Coleg Gwent
- Mae Coleg Gwent yn croesawu myfyrwyr sydd am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog ym mhob campws.
- Gall myfyrwyr dderbyn cymorth un-i-un i gwblhau gwaith yn Gymraeg, cyngor ar apiau defnyddiol, a chefnogaeth ar gyfer asesiadau.
- Darperir cymorth i myfyrwyr i ddatblygu sgiliau Cymraeg drwy gyrsiau Cymraeg Ail Iaith Lefel AS/A a thrwy gweithgareddau Clwb Cymraeg y Coleg.
- Mae’r Coleg hefyd wedi ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg drwy weithgareddau all-gyrsiol fel Dydd Santes Dwynwen, yr Eisteddfod, a theithiau i leoliadau Cymraeg.
Coleg Gŵyr Abertawe
- Mae Coleg Gwyr Abertawe yn croesawu myfyrwyr sydd am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.
- Gall myfyrwyr dderbyn cymorth i gwblhau gwaith yn Gymraeg a chefnogaeth ar gyfer asesiadau amrywiol ar bob lefel.
- Mae’r Coleg wedi ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg drwy weithgareddau allgyrsiol i bob dysgwr pa bynnag caffael ieithyddol gyda chymuned Cymraeg i fyfyrwyr a staff sy'n defnyddio'r iaith ar draws y campysau.
Coleg Sir Benfro
- Mae eu deunyddiau gwybodaeth, ffurflenni a chyfathrebu â myfyrwyr ar gael yn ddwyieithog.
- Mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo fel rhan o brofiad addysgol cynhwysol ar draws y Coleg.
- Mae modd cysylltu â’r Coleg yn Gymraeg drwy’r gwasanaeth ffôn 01437 753 000 a dewis opsiwn 2 neu gysylltu yn Gymraeg mewn e-bost.
- Darperir gwasanaeth cymorth ar unrhyw agwedd ar astudio yn Gymraeg gyda’r Tîm Datblygu’r Iaith Gymraeg drwy ffonio 01437 753435/121
Coleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion
- Wrth gyrchu gwefan y Coleg, mae’r sgrin groeso gychwynnol a welir gan bob defnyddiwr yn cynnig y dewis i bori’r wefan drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg.
- Wrth wneud hyn, mae’r Coleg yn cyflwyno cynnig gweithredol i ddefnyddwyr ddewis y Gymraeg cyn iddynt symud ymlaen i gynnwys neu wasanaethau’r wefan.
- Yn yr adran “Cysylltu â ni”, mae’r Coleg yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg drwy nodi’n glir fod pob defnyddiwr yn cael ei groesawu ac yn cael ei annog i gysylltu yn Gymraeg.
- Mae’r un neges yn ymddangos ar y tudalennau Cymraeg a Saesneg, gan sicrhau cysondeb ar draws y ddwy iaith.
- Ar dudalen Instagram Saesneg y Coleg, gofynnir “Siarad Cymraeg?”, ynghyd â dolen uniongyrchol i’r dudalen Instagram Gymraeg gyfatebol.
- Annogir siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r sianel Gymraeg ac i hyrwyddo’r ddarpariaeth Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.
Coleg y Cymoedd
- Darperir nifer o opsiynau a chefnogaeth ddwyieithog gan y Coleg ar gyrsiau amrywiol megis Gofal Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus, Diwydiannau Creadigol a Busnes yn ddwyieithog.
- Mae modd i myfyrwyr gofrestru a derbyn gohebiaeth a ffurflenni yn Gymraeg, yn ogystal â mynediad at wasanaethau Lles, Gyrfaoedd a Chefnogaeth Ddysgu.
- Penodir llysgenhadon a Phencampwyr Cymraeg gan y Coleg i hyrwyddo’r Gymraeg ymhlith dysgwyr, cynorthwyo gyda digwyddiadau, diwrnodau agored a chynnwys cyfryngau cymdeithasol.
- Mae’r Coleg yn falch o fedru cynnig cyfleoedd i ymgysylltu’n llawn â chymuned y Coleg yn newis iaith ei myfyrwyr.
Comisiwn Apwyntiadau Barnwrol
- Mae’r Comisiwn Apwyntiadau Barnwrol yn dewis ymgeiswyr ar gyfer swyddi barnwrol yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal ag apwyntiadau ar gyfer rhai tribiwnlysoedd sydd â phwerau ledled y DU.
- Drwy eu proses recriwtio, mae modd i unigolion weld gwybodaeth am swyddi barnwrol yn Gymraeg.
- Mae modd i ymgeiswyr gyflwyno ceisiadau am swyddi penodol o fewn y farnwriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae’r Comisiwn hefyd yn Cynorthwyo i sicrhau bod y broses ymgeisio yn hygyrch i siaradwyr Cymraeg ac yn ymdrechu i gydweithio â’r farnwriaeth yng Nghymru i adlewyrchu sgiliau Cymraeg fel rhan o’r gofynion swydd.
- O fewn eu prosesau dethol, gallent asesu sgiliau Cymraeg fel rhan o’r gofynion swydd.
- Mae eu cyfathrebu â’r cyhoedd a’r farnwriaeth yng Nghymru ar gael yn ddwyieithog.
- Maent yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn ymateb yn yr un iaith.
- Mae’r Gymraeg yn cael ei chynnig fel iaith gyfathrebu safonol ar draws eu gwasanaethau recriwtio barnwrol.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Mae’r Comisiwn yn cynnig ystod o wasanaethau Cymraeg allweddol, sy’n cynnwys eu gwefan (isod)
- Gwasanaeth Ymholiadau Cyhoeddus Am Ddim – sy’n darparu gwybodaeth am safleoedd a henebion. Mae modd cysylltu ar: chc.cymru@cbhc.gov.uk | 01970 621 200
- Cyhoeddiadau ac Allgymorth Cymraeg – sy’n cynnwys siop ar-lein, anerchiadau cyhoeddus, gweithgareddau addysgol, teithiau o gwmpas y Llyfrgell a’r Ystafell Chwilio, cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol, a rhwydwaith Cyfeillion y Comisiwn.
- Gwefannau pwrpasol –
• Coflein: Cronfa ddata ar-lein sy’n cynnwys dros 120,000 o safleoedd hanesyddol yng Nghymru. - Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru: Adnodd y gellir ei chwilio, sy’n cynnwys dros 720,000 o gofnodion.