Rydym wedi paratoi canllaw a thempled ymarferol i gefnogi swyddogion drwy’r broses o asesu effaith penderfyniadau polisi ar y Gymraeg. Nod y canllawiau sicrhau fod sefydliadau yn rhoi ystyriaeth gydwybodol i’r Gymraeg wrth lunio a gweithredu polisïau addysg. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys templed clir i’w ddilyn wrth gynnal asesiad effaith, ynghyd ag asesiad enghreifftiol er mwyn cynnig arweiniad ymarferol ar ddisgwyliadau a dull gweithredu effeithiol.
Noder nad yw dilyn y canllaw a'r templed hwn, ynddo’i hun, yn gwarantu cydymffurfiaeth â gofynion y safonau. Yn hytrach, bwriedir iddynt weithredu fel adnodd ymarferol i gefnogi swyddogion wrth asesu effaith penderfyniadau polisi addysg ar y Gymraeg, gan eu tywys drwy’r broses ac amlygu egwyddorion ac arferion da. Dylid hefyd ystyried y canllaw hwn ochr yn ochr â’r ddogfen gyngor gyffredinol sydd eisoes ar gael ar gynnal asesiadau o effaith polisïau ar y Gymraeg, gan fod y ddogfen hon yn ategu ac yn adeiladu ar y cyngor hwnnw mewn cyd-destun addysg.
Canllaw asesu effaith polisi addysg
Templed asesiad effaith polisi addysg