Rhaid gwneud “ymdrech gydwybodol”[1] i ystyried effaith y penderfyniad ar y Gymraeg. Mae’r trothwy ar gyfer “ymdrech gydwybodol” yn dibynnu ar yr amgylchiadau ac mae’n rhaid gwneud mwy:
- mewn ardal sensitif neu arwyddocaol o ran y Gymraeg
- wrth i nifer a/neu faint yr effeithiau posib ar y Gymraeg gynyddu
- os oes polisi neu ganllaw lleol yn (e.e. yn y maes addysg neu gynllunio) yn gofyn am asesiad o effeithiau posib ar y Gymraeg
Mae’n fwy tebygol y bydd “ymdrech gydwybodol” yn cael ei wneud os oes ystod eang o effeithiau’n cael eu hystyried.
Nid yw’n ddigonol cynnwys cyfres o ddatganiadau ffeithiol, cyffredinol am y Gymraeg (e.e. nifer a % siaradwyr Cymraeg yn yr ardal, gwybodaeth am ysgolion cyfrwng Cymraeg, gwariant y corff ar y Gymraeg ayb). Nid yw hynny gyfystyr ag ystyried effeithiau posib y penderfyniad penodol dan sylw ar y Gymraeg.
[1] Penderfyniad Tribiwnlys y Gymraeg yn achos Cyngor Castell-nedd Port Talbot v Comisiynydd y Gymraeg