Fe wnaeth 89 sefydliad gymryd rhan yn ein llinell ymholi ar y safonau llunio polisi (71% o’r holl sefydliadau sydd yn dod o dan ofynion y safonau).
Dyma recordiad o’r digwyddiad wnaethom ei gynnal oedd yn trafod canfyddiadau’r adroddiad ac yn cyflwyno arferion da gan amrywiaeth o sefydliadau.
Prif Ganfyddiadau
Safonau gwneud penderfyniad polisi
Mae sawl arfer da yn cael eu cymhwyso wrth gynnal asesiad effaith ar y Gymraeg. Ond mae meysydd craidd angen eu gwella os am sicrhau cydymffurfiaeth lawn. Mae’r angen am ymdrech gydwybodol i ystyried y Gymraeg yn sefyll allan.
Ar y cyfan, roedd sefydliadau o’r farn bod eu lefel sicrwydd cydymffurfiaeth yn uwch nag ydyw mewn gwirionedd.
Arferion da
- Cynnal asesiad ar wahân o’r effaith ar y Gymraeg fel y gellir rhoi mwy o bwyslais ac ystyriaeth i ofynion penodol y safonau.
- Darparu canllawiau a hyfforddiant cyfredol sy’n egluro sut i gynnal asesiad effaith llwyddiannus ar y Gymraeg, gan gynnwys enghreifftiau o ystyriaethau posib ac eglurhad o ‘ymdrech gydwybodol’.
Safonau dogfen ymgynghori
Er i ni adnabod rhai enghreifftiau o arfer dda gan sefydliadau, mae’n amlwg bod gwaith i’w wneud i sicrhau bod gwell dealltwriaeth o’r ddau ofyniad sydd o fewn y safonau hyn, sef y gofyniad i ystyried ac i geisio barn ar yr effeithiau posib ar y Gymraeg.
Unwaith eto, y patrwm oedd bod sefydliadau o’r farn bod eu lefel sicrwydd cydymffurfiaeth yn uwch nag ydyw mewn gwirionedd.
Arferion da
- Dogfen ymgynghori yn gofyn cwestiynau unigryw i’r penderfyniad polisi dan sylw er mwyn bodloni’r gofyniad i ‘geisio barn’.
- Canllaw clir sy’n egluro bod dau ofyniad o fewn y safonau hyn – sef ystyried a cheisio barn. Mae angen bodloni’r ddau ofyniad yma.
Safonau ymchwil
Ar y cyfan, ni ddangosodd sefydliadau bod trefniadau cadarn mewn lle i sicrhau cydymffurfiaeth, ac felly mae hwn yn sicr yn faes sydd angen ei gryfhau.