Hyrwyddo Gwasanaethau Sefydliadau Cyhoeddus
Coleg Gwent
- Mae Coleg Gwent yn croesawu myfyrwyr sydd am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog ym mhob campws.
- Gall myfyrwyr dderbyn cymorth un-i-un i gwblhau gwaith yn Gymraeg, cyngor ar apiau defnyddiol, a chefnogaeth ar gyfer asesiadau.
- Darperir cymorth i myfyrwyr i ddatblygu sgiliau Cymraeg drwy gyrsiau Cymraeg Ail Iaith Lefel AS/A a thrwy gweithgareddau Clwb Cymraeg y Coleg.
- Mae’r Coleg hefyd wedi ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg drwy weithgareddau all-gyrsiol fel Dydd Santes Dwynwen, yr Eisteddfod, a theithiau i leoliadau Cymraeg.
Coleg Sir Benfro
- Mae eu deunyddiau gwybodaeth, ffurflenni a chyfathrebu â myfyrwyr ar gael yn ddwyieithog.
- Mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo fel rhan o brofiad addysgol cynhwysol ar draws y Coleg.
- Mae modd cysylltu â’r Coleg yn Gymraeg drwy’r gwasanaeth ffôn 01437 753 000 a dewis opsiwn 2 neu gysylltu yn Gymraeg mewn e-bost.
- Darperir gwasanaeth cymorth ar unrhyw agwedd ar astudio yn Gymraeg gyda’r Tîm Datblygu’r Iaith Gymraeg drwy ffonio 01437 753435/121
Coleg y Cymoedd
- Darperir nifer o opsiynau a chefnogaeth ddwyieithog gan y Coleg ar gyrsiau amrywiol megis Gofal Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus, Diwydiannau Creadigol a Busnes yn ddwyieithog.
- Mae modd i myfyrwyr gofrestru a derbyn gohebiaeth a ffurflenni yn Gymraeg, yn ogystal â mynediad at wasanaethau Lles, Gyrfaoedd a Chefnogaeth Ddysgu.
- Penodir llysgenhadon a Phencampwyr Cymraeg gan y Coleg i hyrwyddo’r Gymraeg ymhlith dysgwyr, cynorthwyo gyda digwyddiadau, diwrnodau agored a chynnwys cyfryngau cymdeithasol.
- Mae’r Coleg yn falch o fedru cynnig cyfleoedd i ymgysylltu’n llawn â chymuned y Coleg yn newis iaith ei myfyrwyr.
Comisiwn Apwyntiadau Barnwrol
- Mae’r Comisiwn Apwyntiadau Barnwrol yn dewis ymgeiswyr ar gyfer swyddi barnwrol yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal ag apwyntiadau ar gyfer rhai tribiwnlysoedd sydd â phwerau ledled y DU.
- Drwy eu proses recriwtio, mae modd i unigolion weld gwybodaeth am swyddi barnwrol yn Gymraeg.
- Mae modd i ymgeiswyr gyflwyno ceisiadau am swyddi penodol o fewn y farnwriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae’r Comisiwn hefyd yn Cynorthwyo i sicrhau bod y broses ymgeisio yn hygyrch i siaradwyr Cymraeg ac yn ymdrechu i gydweithio â’r farnwriaeth yng Nghymru i adlewyrchu sgiliau Cymraeg fel rhan o’r gofynion swydd.
- O fewn eu prosesau dethol, gallent asesu sgiliau Cymraeg fel rhan o’r gofynion swydd.
- Mae eu cyfathrebu â’r cyhoedd a’r farnwriaeth yng Nghymru ar gael yn ddwyieithog.
- Maent yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn ymateb yn yr un iaith.
- Mae’r Gymraeg yn cael ei chynnig fel iaith gyfathrebu safonol ar draws eu gwasanaethau recriwtio barnwrol.
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw rheoleiddiwr cydraddoldeb a hawliau annibynnol Prydain, sef sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRI) â ‘Statws A’ achredwyd gan y Cenhedloedd Unedig.
- Rôl y Comisiwn yw sicrhau bod Prydain yn lle tecach drwy orfodi a chynnal cyfreithiau sy’n amddiffyn hawl pawb i degwch, urddas a pharch.
- Drwy eu gwasanaethau digidol ac ar lein, mae modd i unigolion gael mynediad at wybodaeth am hawliau dynol a chydraddoldeb yn Gymraeg.
- Mae modd i unigolion defnyddio’r ‘Traciwr Hawliau Dynol’ i olrhain perfformiad llywodraethau Cymru a’r DU yn ei iaith ddewisol.
- Ceir cyhoeddiadau ac adroddiadau ar wefan ddwyieithog y Comisiwn.
Comisiwn Elusennau
- Y Comisiwn Elusennau yw rheoleiddiwr a chofrestrydd elusennau y Deyrnas Unedig.
- Drwy eu porth ar-lein “Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau”, mae modd i unigolion a chymdeithasau gofrestru gyda’r Comisiwn, gwneud cais a derbyn canllawiau yn Gymraeg.
- Mae modd i ddefnyddwyr ystyried canllawiau 5 munud ar gyfer staff ac ymddiriedolwyr elusennau yn eich iaith ddewisol.
- Cynorthwyo i sicrhau bod penderfyniadau, rheoli cyllid a diogelu pobl yn cael eu cefnogi’n llawn yn Gymraeg.
- Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys cyngor ar wneud penderfyniadau fel ymddiriedolwr, gwrthdaro buddiannau, rheoli cyllid a diogelu pobl.
- Mae modd gwneud cais i gofrestru elusen yn y Gymraeg ar wefan y Comisiwn.
Comisiwn Ffiniau i Gymru
- Drwy eu gwasanaethau digidol ac ar lein, mae modd cysylltu â’r Comisiwn yn Gymraeg dros y ffôn ar 02920464819, e-bost ymholiadau@cdffc.llyw.cymru neu drwy’r wefan ar www.cdffc.llyw.cymru.
- Atebir pob galwad ffôn yn Gymraeg yn gyntaf, ac mae cyfathrebu drwy e-bost a’r wefan yn gwbl ddwyieithog.
- Mae modd i unigolion ymateb i ymgynghoriadau yn Gymraeg drwy’r porth www.arolygoncymru.cymru
- Mae’r Comisiwn yn sicrhau bod pob cyswllt â’r Comisiwn yn cael ei drin yn gyfartal waeth beth fo’r iaith.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i’r cyhoedd yng Nghymru.
- Mae’r Gronfa wedi dyfarnu bron £4 miliwm i sefydliadau sy’n hybu’r Gymraeg mewn cymunedau yn Nghymru.
- Drwy eu gwasanaethau, mae modd gwneud cais a derbyn cymorth wrth ymgeisio am arian gan y Gronfa yn Gymraeg.
- Mae modd cysylltu â staff dwyieithog y Gronfa sy’n asesu ac yn rheoli grantiau ar gyfer grwpiau Cymraeg eu hiaith.
- Cynorthwyo i sicrhau bod deunyddiau ymgeisio ar gael yn ddwyieithog.
Cyfoeth Naturiol Cymru
- Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig gwasanaeth dwyieithog 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos am ddigwyddiadau amgylcheddol dros y ffon neu ar lein.
- Darperir cyngor ar lygredd, negeseuon cyhoeddus a diweddariadau amgylcheddol yn ddwyieithog.
- Mae eu gwasanaethau rhybuddion llifogydd, e-recriwtio a negeseuon cyhoeddus ar gael yn llawn drwy’r Gymraeg.
- Mae eu gwefan, dogfennau cyngor a gwybodaeth amgylcheddol yn ddwyieithog.
- Mae modd cofrestru am ddim i dderbyn rhybuddion llifogydd amserol yn Gymraeg drwy ffôn, neges destun neu e-bost
- Mae modd gwneud cais am swydd yn ddwyieithog. Hysbysebir swyddi gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddwyieithog. Mae croeso i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais yn Gymraeg neu Saesneg.
Cyngor Abertawe
- Derbynnir gohebiaeth a negeseuon yn ddwyieithog gan y Cyngor. Mae hefyd modd cofrestru i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg gan y Cyngor.
- Drwy eu strategaeth iaith, mae modd gweld sut mae’r Cyngor yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg rhwng 2024–2029.
- Mae gwefan y Cyngor yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am addysg cyfrwng Cymraeg o fewn y Sir.
- Mae modd cyrchu gwybodaeth ac ystadegau am sgiliau Cymraeg y boblogaeth leol ar wefan y Cyngor.
Cyngor Bro Morgannwg
- Darperir amrywiaeth eang o wasanaethau gan y Cyngor yn Gymraeg. Ceir mwy o fanylion am y gwasanaethau yma ar wefan y Cyngor.
- Drwy eu porth cwsmeriaid, mae modd gwneud cais am drwyddedau, rhoi gwybod am broblemau neu ofyn a chofrestru am wasanaethau yn Gymraeg.
- Mae hefyd modd i unigolion gymryd rhan mewn ymgynghoriadau cyhoeddus drwy’r platfform digidol ‘Cymryd Rhan y Fro’ yn Gymraeg.
- Darperir adnoddau ychwanegol i blant yng Nghanolfan Trochi’r Iaith Gymraeg sydd yn cefnogi plant 4–11 oed i lwyddo mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-Nedd Port Talbot
- Darperir amrywiaeth eang o wasanaethau Cymraeg gan y Cyngor. Ceir mwy o fanylion am y gwasanaethau sydd ar gael ar wefan y Cyngor.
- Mae modd i unigolion gysylltu â’r Cyngor yn Gymraeg gyda’r gwasanaeth ffôn yn sicrhau bod modd derbyn gwasanaeth Cymraeg wrth gysylltu.
- Mi all preswylwyr ddefnyddio’r cyfrif “myNPT” yn Gymraeg, gan gynnwys hysbysiadau, ffurflenni a chyfathrebu. Mae hefyd modd cofrestru i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg gan y Cyngor trwy’r gwasanaeth yma.
- Mae modd tanysgrifio i gylchlythyr preswylwyr ‘Newyddion CnPT/NPT News’ am fersiynau Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog.