Siaced gyda logo Lidl a bathodyn Iaith Gwaith

Mae gan Lidl 55 o siopau ar draws Cymru ac ym mis Ionawr eleni dyma oedd yr archfarchnad gyntaf i sicrhau cymeradwyaeth i’r Cynnig Cymraeg. Yma maent yn egluro pam ei fod yn bwysig i’r cwmni. 

Ers 2014, mae Lidl wedi darparu arwyddion dwyieithog, ac ers hynny, mae wedi cynyddu ei hymrwymiad i’w siaradwyr Cymraeg, yn gwsmeriaid ac yn staff.  

Mae bellach yn buddsoddi mewn cynnig gwasanaethau Cymraeg ar draws pob agwedd o’i gwaith yng Nghymru, gan gynnwys:  

  • Cyhoeddiadau mewn siopau 
  • Bathodynnau enwau gweithwyr 
  • Llinellau ffôn cwsmeriaid a gohebiaeth ysgrifenedig 
  • Pecynnu ar holl gynnyrch Cymreig lleol, sydd ar hyn o bryd yn golygu 70 darn o gynnyrch  
  • Tiliau hunan-wasanaeth  
  • Diweddariadau cyfryngau cymdeithasol perthnasol  

Dywedodd Ute Thomas, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Lidl yng Nghymru 

Yn Lidl, rydym wedi ymrwymo i fod yn fanwerthwr cynhwysol, ar gyfer ein cwsmeriaid, ein cymunedau, a’n cydweithwyr. Yng Nghymru, mae diogelu a hyrwyddo ein hiaith yn rhan enfawr o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn gynhwysol.  

“Roeddem yn falch iawn i fod yr archfarchnad gyntaf i dderbyn cymeradwyaeth i’n Cynnig Cymraeg, i gydnabod y gwaith rydym wedi ei wneud wrth ddatblygu ein darpariaeth iaith Gymraeg.”  

Cynnyrch o Gymru 

Mae dewis Lidl o nwyddau o Gymru yn cynnwys 70 o gynhyrchion sy'n cwmpasu cynnyrch llaeth blasus, cigoedd cartref, a danteithion melys.  

Trwy weithio'n uniongyrchol gyda 130 ffermwyr a theuluoedd sy'n ffermio, gellir olrhain y cynhyrchion o'r cae i'r siop; mae hyn yn galluogi siopwyr yng Nghymru i fwynhau cig eidion a fagwyd yn lleol ac sydd o'r ansawdd uchaf. 

Ychwanegodd Ute Thomas, 

“Rydym yn falch o allu cynnig y cynnyrch lleol mwyaf ffres, ac wedi lansio ystod newydd o gynnyrch cig eidion Cymreig, fel rhan o’n hymrwymiad i gefnogi ffermwyr lleol. 

“Rydym yn teimlo'n angerddol ynghylch y cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt, ac yn cefnogi’r math o bethau sydd yn wirioneddol bwysig i’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr. Byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd y gallwn gefnogi'r Gymraeg, sy'n rhan mor bwysig o hunaniaeth a threftadaeth ein cymunedau.”