Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi creu cyfres o ffilmiau byrion sydd yn amlygu arferion effeithiol o safbwynt y Gymraeg mewn amryw o gyrff ar draws Cymru. 

Yma mae Ffreuer Owen o Gyngor Sir Ynys Môn yn sôn am sut y maent wedi gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu strategaeth effeithiol i hybu’r Gymraeg ar yr ynys.   

Yr hyn oedd yn hollbwysig i ni o’r cychwyn cyntaf oedd mai nid strategaeth hybu'r Gymraeg ar gyfer y cyngor sir yn unig yw hon, ond bod angen sicrhau perchnogaeth ehangach arni. Felly fe wnaethom gyd-weithio â Fforwm Iaith Ynys Môn, fforwm annibynnol, i ehangu'r weledigaeth honno o gael y Gymraeg fel iaith fyw sydd yn cael ei defnyddio’n naturiol ar draws yr ynys.  

Os am weld y Gymraeg yn ffynnu mae cyd-weithio'n allweddol. Mae angen i ni sylweddoli mai nid cyfrifoldeb un person neu un sefydliad ydy gwireddu'r strategaeth hon ar Ynys Môn, ac mae hynny’n wir am unrhyw strategaeth genedlaethol hefyd. Mae bod yn rhan o'r fforwm iaith a gweithio mewn partneriaeth yno yn rhoi'r cyfle i bartneriaid ar yr ynys i ddod at ei gilydd, ac i rannu arfer dda, i ddeall mwy am beth mae'r naill neu'r llall yn ei wneud. Ond yn bwysicach na hynny, i gyd-gynllunio a gweithio efo'n gilydd ar lefel ymarferol ac i wireddu prosiectau all wneud gwir wahaniaeth. 

Roedden ni'n gwybod bod y blynyddoedd cynnar yn allweddol iawn pan mae'n dod i fagu hyder yn y Gymraeg, ac roedden ni'n awyddus i ddatblygu adnodd a fyddai o ddefnydd i rieni a gofalwyr. Unwaith eto, o ystyried pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth, yr hyn wnaethon ni oedd dod at ein gilydd fel grŵp o dan enw partneriaeth Cymraeg i Blant a Theuluoedd Môn. Roedd hyn yn cynnwys gwahanol adrannau o fewn y cyngor yn ogystal â sefydliadau allanol sydd â pherthynas â rhieni, fel Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant a’r Bwrdd Iechyd Ac wrth wneud gwaith ymchwil eithaf sylweddol gyda’r rhieni cytunwyd mai ap oedd ei angen, ac aethpwyd ati i ddatblygu ap OgiOgi.  

Mae’r ap felly yn un enghraifft o ddatrysiad y gwnaethon ni greu mewn ymateb i un o'r prif heriau 'dan ni'n eu hwynebu yma ar yr ynys sef diffyg trosglwyddiad iaith yn y cartref. Enghraifft arall fwy diweddar yw’r cydweithio gyda chynghorau tref a chymuned i benodi pencampwr iaith ymhob ardal ar draws yr ynys. Y nod yw sicrhau bod ganddyn nhw'r arfau a'r wybodaeth i weithredu ar lawr gwlad yn eu hardaloedd nhw, hyrwyddo'r iaith yn yr ardal honno ac i sicrhau bod teuluoedd, plant, pobl ifanc, y gymuned yn ei chyfanrwydd yn cael mynediad ac yn cael gymaint o gyfle â phosib i ddefnyddio'r Gymraeg. 

Ein nod gyda’r strategaeth yw nad dogfen ar silff yw hi, ond ei bod hi yn ddogfen fyw a bod 'na gyfle i ail-ymweld â hi yn flynyddol ac mae’r cynlluniau gweithredu sy’n deillio ohoni yn caniatáu i ni wneud hynny. Strategaeth hyblyg sy’n caniatáu i ni ymateb yn ôl y galw ac er budd Ynys Môn. 

Gallwch weld a chlywed mwy am y gwaith sydd yn digwydd ar Ynys Mȏn ac am ap Ogi Ogi isod.