Mae canran uchel o’u staff yn gallu cynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog.
O fewn eu meysydd arbenigol, gallent ddelio â phob ymholiad neu ddarn o waith drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae eu gwefan a nifer fawr o’u deunydd marchnata yn ddwyieithog.
Mae ganddyn nhw berthynas agos gyda mudiadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg – mudiadau fel Mentrau Iaith Cymru, Menter a Busnes, a Cwlwm Busnes. Maent yn cynllunio rhaglen o gydweithio yn flynyddol.
Mae recriwtio staff sydd yn medru’r Gymraeg yn cael ei weld yn fantais iddynt.
Mae DEG yn croesawu gohebiaeth ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd yr holl ohebiaeth a dderbynnir trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei ateb yn Gymraeg. Byddant yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr holl ohebiaeth a dderbynnir trwy gyfrwng y Gymraeg yn derbyn sylw o fewn yr un amserlen â gohebiaeth Saesneg.
Mae croeso i bobl siarad Saesneg neu Gymraeg wrth ddelio â DEG dros y ffôn. Os na fydd modd i gyflogai ddarparu gwasanaeth dwyieithog, byddant yn egluro’r sefyllfa i’r unigolyn ac yn cynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg gan gyflogai arall o staff. Os nad oes siaradwyr Cymraeg ar gael, gall y person sy’n galw ddewis cael person sy’n siarad Cymraeg i roi galwad yn ôl iddynt; cyflwyno’r cais yn ysgrifenedig (copi caled/e-bost); neu barhau â’r sgwrs trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae DEG wrthi’n sicrhau bod y rhai sy’n dymuno cael cyswllt wyneb yn wyneb gyda chyflogai sy’n siarad Cymraeg yn gallu gwneud hynny naill ai’n ffisegol neu’n rhithiol, yn ddibynnol ar trefniadau gweithio sydd mewn lle gan DEG ar y pryd. Efallai na fydd hyn yn bosib bob tro, ond ymdrechir i gynnig y gwasanaeth llawn hyd ag y bo modd.
Bydd popeth rydym yn ei gyhoeddi, yn cynnwys blogiau, erthyglau, postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ddwyieithog gyda Cymraeg gyntaf
Mae DEG yn ymdrechu i annog a chefnogi cyflogeion sy’n dymuno dysgu Cymraeg ac i gefnogi staff sy’n siarad Cymraeg ac yn dymuno gwella eu sgiliau iaith. Bydd staff sy’n siarad Cymraeg yn annog staff eraill sy’n dysgu Cymraeg i siarad Cymraeg yn y gweithle.
Darparu o leiaf un prosiect Cymraeg ar eu platfform bob amser
Darparu o leiaf un cyfle neu ddigwyddiad gwirfoddoli untro trwy gyfrwng y Gymraeg bob mis
Cydweithio ag Academi Hywel Teifi ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe i ymgysylltu â myfyrwyr Cymraeg eu hiaith
Darparu cyfathrebiadau dwyieithog lle bo modd, gan gynnwys yn e-bost wythnosol Discovery, ar llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a deunyddiau cyhoeddusrwydd
Cynnig hyfforddiant sgiliau iaith Gymraeg i staff a gwirfoddolwyr bob tymor.