HYSBYSEBIR SWYDDI GWAG YN DDWYIEITHOG
Ymfalchiwn yn y ffaith fod pob un o’n swyddi gwag parhaol a thymhorol yn cael eu hysbysebu’n ddwyieithog ar ein gwefan, gan gynnwys y disgrifiadau swydd a’r ffurflenni cais. Mae hyn yn arwyddocaol gan ei fod yn golygu y gall ymgeiswyr wneud cais llawn am unrhyw rôl, drwy gyfrwng y Gymraeg.
LLOFNODION E-BOST ‘YSGRIFENWCH ATAF YN GYMRAEG NEU SAESNEG’
Mae llofnod e-bost dwyieithog a baner ‘Ysgrifennwch ataf yn Gymraeg neu Saesneg’ ar droedynnau e-bost mwyafrif helaeth ein haelodau staff sy’n siarad Cymraeg. Mae hyn yn ei gwneud yn glir i'w cwsmeriaid Cymraeg, pa aelodau o staff sy'n gallu cyfathrebu ac ateb eu hymholiadau yn Gymraeg.
BWYDLENNI ARLWYO AR GAEL YN GYMRAEG YNG NGHORSAF CAERNARFON
Mae ganarlwywyr yng Ngorsaf Caernarfon, Caffi De Winton, fwydlenni dwyieithog ar y byrddau ac byrddau arddangos bwydlenni dwyieithog uwchben cownter y caffi.
‘BIOS’ CYFRYNGAU CYMDEITHASOL DWYIEITHOG
Ar eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol (‘Facebook’, ‘Twitter’, ‘Instagram’ a ‘YouTube’) rydym wedi cyfieithu pob ‘bio’ sy’n golygu y gall ein dilynwyr ac ymwelwyr ddarllen trosolwg o ‘pwy ydym ni’ yn Gymraeg ac Saesneg. Mae argraffiadau cyntaf yn bwysig ac rydym yn awyddus i pob ymwelwr a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol gael eu cyfarch gan ‘bio’ dwyieithog.
ANNOG SGILIAU IAITH GYMRAEG
Awyddus iawn i annog defnydd o’r Gymraeg ymhlith eu staff a’i gwirfoddolwyr ac felly, ar y mwyafrif helaeth o’n swyddi gwag parhaol a thymhorol, rhestrir sgiliau Cymraeg fel sgil dymunol. Hefyd yn annog ‘agwedd gadarnhaol tuag at y defnydd o’r Gymraeg’ ar hysbysebion Gwirfoddolwyr amrywiol. Mae gwirfoddolwyr nad ydynt yn rhugl yn dysgu sut i gyfarch yn ddwyieithog.