Sefydliadau sydd â'r Cynnig Cymraeg
Plantos
· Maent yn darparu 'Cynnig Gweithredol' o'r iaith Gymraeg. Maent yn rhagweld, yn nodi ac yn diwallu anghenion iaith a diwylliant y bobl sy'n defnyddio, neu a allai ddefnyddio eu gwasanaeth.
· Maent yn annog staff i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg, drwy ddefnyddio’r prosiectau Cymraeg Gwaith a CAMAU.
· Maent yn rhoi cyfleoedd iaith Gymraeg i'r plant
· Maent yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei gweld a'i chlywed e.e. Darparu gohebiaeth dwyieithog bob tro o fewn cylchlythyron chwarterol i rieni
Principality
-
Maent yn cofnodi dewis iaith eu haelodau a'u cwsmeriaid fel y gallwn ohebu yn Gymraeg pan yn bosib.
-
Maent yn cynnig y dewis i alwyr ffôn siarad ag aelod o staff yn Gymraeg.
-
Mae ymwelwyr i'w gwefan yn cael yr opsiwn i gysylltu â'r fersiwn Gymraeg.
-
Mae eu harwyddion Cangen a'u cyfleusterau ATM yn ddwyieithog.
-
Mae eu cynnig addysg ariannol yn ddwyieithog gan gynnwys eu gwefan www.sgwadsafiodylan.cymru ac ap Cuddfan Dylan.
Pritchard Jones Lane LLP
- Mae eu holl wasanaethau ar gael yn gwbl ddwyieithog.
- Maent yn gallu drafftio dogfennau cyfreithiol gan gynnwys Cytundebau, Gweithredoedd, Ewyllysiau, Prydlesi, Ceisiadau Llys ayyb yn Gymraeg.
- Gallwch sgwrsio gyda’u cyfreithwyr a derbyn eu cyngor arbenigol yn y Gymraeg.
- Mae eu gwefan a’u holl negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog.
- Maent yn cefnogi nifer o elusennau a chlybiau lleol sydd yn rhedeg nifer o weithgareddau yn Gymraeg.
- Maent hefyd wedi buddsoddi mewn prosiectau cymunedol sydd hefyd yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Protec Physio
- Maent yn falch o gynnig pob triniaeth yn y gymraeg (Pilates, Ffisiotherapi, Aciwbigo, Tylunio)
- Mae eu gwefan yn ddwyieithog
- Maent yn defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol
- Gallwch gysylltu gyda nhw dros e-bost neu ar y ffôn yn Gymraeg
- Mae eu holl ddeunyddiau marchnata ar gael yn Gymraeg
Ramblers Cymru
- Dilynwch eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol dwyieithog
- Os ydych chi’n cysylltu gyda nhw yn Gymraeg byddwn yn eich ateb yn Gymraeg - ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Gallwch fynd trwy holl broses ymaelodi a diweddaru eich aelodaeth yn Gymraeg
- Mae eu cylchlythyr misol yn ddwyieithog
- Dysgwch am eu gwaith a’i phrosiectau trwy ddarllen eu taflenni gwybodaeth sydd ar gael yn ddwyieithog.
RCS
- Mae RCS yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg ar bob cam o’r ddarpariaeth ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth cyflawn yn eich iaith ddewisol.
- Rydych yn gallu cyrchu gwefan RCS yn llawn yn Gymraeg neu Saesneg
- Hyrwyddo eu gwasanaethau a’i gwybodaeth yn ddwyieithog gan gynnwys marchnata a hyrwyddo, y cyfryngau cymdeithasol, recriwtio a gwybodaeth am wasanaethau.
- Cefnogi ac annog defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, drwy fynd ati’n rhagweithiol i recriwtio siaradwyr Cymraeg (lle mae’r angen wedi’i nodi), annog defnydd anffurfiol o’r Gymraeg yn y gweithle a galluogi/annog staff i wneud cyrsiau Cymraeg.
- Bydd staff RCS sy’n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodynnau Iaith Gwaith ac yn defnyddio eu llofnod e-bost i hybu’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg neu Saesneg.
- Cynnig sesiynau Llesiant yn Gymraeg.
Rheilffordd Llyn Padarn
- Mae pob aelod o'u staff sy'n delio wyneb yn wyneb â'r cyhoedd yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg.
- Mae'u holl arwyddion mewnol ac allanol yn ddwyieithog.
- Cyhoeddir eu holl gynnwys cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog.
- Paratoir pob cylchlythyr, ffurflen a dogfen arall a ddosberthir i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru yn ddwyieithog.
- Mae pob gohebiaeth bersonol yn cael ei chychwyn yn Gymraeg oni bai bod yr awdur yn gwybod bod y derbynnwr wedi gofyn yn wahanol.
Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru
HYSBYSEBIR SWYDDI GWAG YN DDWYIEITHOG
Ymfalchiwn yn y ffaith fod pob un o’n swyddi gwag parhaol a thymhorol yn cael eu hysbysebu’n ddwyieithog ar ein gwefan, gan gynnwys y disgrifiadau swydd a’r ffurflenni cais. Mae hyn yn arwyddocaol gan ei fod yn golygu y gall ymgeiswyr wneud cais llawn am unrhyw rôl, drwy gyfrwng y Gymraeg.
LLOFNODION E-BOST ‘YSGRIFENWCH ATAF YN GYMRAEG NEU SAESNEG’
Mae llofnod e-bost dwyieithog a baner ‘Ysgrifennwch ataf yn Gymraeg neu Saesneg’ ar droedynnau e-bost mwyafrif helaeth ein haelodau staff sy’n siarad Cymraeg. Mae hyn yn ei gwneud yn glir i'w cwsmeriaid Cymraeg, pa aelodau o staff sy'n gallu cyfathrebu ac ateb eu hymholiadau yn Gymraeg.
BWYDLENNI ARLWYO AR GAEL YN GYMRAEG YNG NGHORSAF CAERNARFON
Mae ganarlwywyr yng Ngorsaf Caernarfon, Caffi De Winton, fwydlenni dwyieithog ar y byrddau ac byrddau arddangos bwydlenni dwyieithog uwchben cownter y caffi.
‘BIOS’ CYFRYNGAU CYMDEITHASOL DWYIEITHOG
Ar eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol (‘Facebook’, ‘Twitter’, ‘Instagram’ a ‘YouTube’) rydym wedi cyfieithu pob ‘bio’ sy’n golygu y gall ein dilynwyr ac ymwelwyr ddarllen trosolwg o ‘pwy ydym ni’ yn Gymraeg ac Saesneg. Mae argraffiadau cyntaf yn bwysig ac rydym yn awyddus i pob ymwelwr a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol gael eu cyfarch gan ‘bio’ dwyieithog.
ANNOG SGILIAU IAITH GYMRAEG
Awyddus iawn i annog defnydd o’r Gymraeg ymhlith eu staff a’i gwirfoddolwyr ac felly, ar y mwyafrif helaeth o’n swyddi gwag parhaol a thymhorol, rhestrir sgiliau Cymraeg fel sgil dymunol. Hefyd yn annog ‘agwedd gadarnhaol tuag at y defnydd o’r Gymraeg’ ar hysbysebion Gwirfoddolwyr amrywiol. Mae gwirfoddolwyr nad ydynt yn rhugl yn dysgu sut i gyfarch yn ddwyieithog.
Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru
- Bydd unrhyw ohebiaeth Cymraeg yn derbyn ymateb yn Gymraeg
- Gwefan ar gael yn ddwyieithog
- Negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn gwbl ddwyieithog
- Proses archebu tocynnau yn ddwyieithog
- Cyhoeddiadau yn gwbl ddwyieithog
RNIB Cymru
- Maent yn cynnig trawsgrifiad personol Cymraeg mewn fformatau hygyrch
- Maent yn darparu lleisiau testun-i-leferydd Cymraeg a chyngor technoleg gynorthwyol Cymraeg i unigolion sydd â cholled golwg
- Gall eu cwsmeriaid gysylltu â siaradwyr Cymraeg eraill â cholled golwg drwy Grŵp ‘Rusty Welsh’ Cyswllt Cymunedol RNIB.
- Mae gwasanaeth Cymraeg ar gael gan eu Tîm Cyngor Colled Golwg
- Maent yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg
- Maent yn defnyddio’r Gymraeg ar eu holl sianeli cyfryngau cymdeithasol
- Mae cyhoeddiadau a llyfrynnau gwybodaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg
- Mae staff a gwirfoddolwyr yn cael cyfle i loywi eu Cymraeg trwy fynychu cyrsiau ar-lein a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
RSPB
- Maent yn darparu gwybodaeth am waith RSPB Cymru a chyfleoedd i gymryd rhan, mewn print ac ar-lein, yn ddwyieithog.
- Maent yn annog a chefnogi eu staff a'u gwirfoddolwyr i ddefnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg.
- Maent yn gwerthfawrogi sgiliau Cymraeg wrth recriwtio aelodau newydd o staff a gwirfoddolwyr.
- Maent yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn ein partneriaethau.
- Maent yn darparu cyfleoedd newydd i bobl ymgysylltu ag RSPB Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg.
Sain
- Gweithredu yn Gymraeg.
- Derbyn ymateb Cymraeg os yn cysylltu yn Gymraeg.
- Sgwrsio gydag unrhyw aelod o staff yn Gymraeg.
- Cefnogi artistiaid i gynhyrchu cerddoriaeth Gymraeg.
- Holl ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.