Mae popeth maent yn ei wneud yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
Maent yn hyrwyddo’r Gymraeg a chyfleoedd i ddysgu Cymraeg yn eu cymuned.
Maent yn creu gweithleoedd a phrosiectau ble mae’r Gymraeg yn iaith naturiol.
Mae eu prosiectau yn amcanu i atgyfnerthu eu cymuned ac yn anuniongyrchol, yn atgyfnerthu’r Gymraeg yn eu cymuned. Mae eu holl staff yn siarad Cymraeg felly mae croeso i chi gyfathrebu gyda nhw wyneb yn wyneb, dros y ffon neu dros e-bost yn Gymraeg a chael ymateb yn Gymraeg.
Gallwch gysylltu gyda nhwn yn ddwyieithog (mewn person, dros y ffôn ac yn ddigidol)
Mae eu gwefan yn gwbl ddwyieithog.
Mae eu holl arwyddion yn gwbl ddwyieithog.
Mae eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog (Facebook, Instagram a LinkedIn) yn ogystal a eu deunyddiau marchnata.
Byddent yn gwneud eu gwasanaethau Cymraeg yn amlwg, ac yn arddangos logos Iaith Gwaith.
Maent wedi ymrwymo i ddefnyddio iaith glir a thafodiaith leol, i ddenu pobl i ddarllen y Gymraeg trwy ‘chware ar eiriau’, ac yn benodol i osgoi cyfieithiadau uniongyrchol sydd yn gallu colli ystyr.
Byddent yn nodi eu hymrwymiad i’r Gymraeg ac yn gwneud hyn yn glir i gontractwyr a chyflenwyr.