Sefydliadau sydd â'r Cynnig Cymraeg
Lidl
- Arwyddion dwyieithog y tu mewn a thu allan i’n siopau yng Nghymru
- Cyhoeddiadau sain dwyieithog yn y siop
- Sticeri siaradwr Cymraeg ar fathodynnau enw
- Gwasanaethau cwsmeriaid yn cynnig ymatebion ysgrifenedig yn y Gymraeg
- Mae pecynnau cynnyrch eu hunain, gan gynnwys llaeth, caws, cig a menyn yn ddwyieithog.
Llais Cymru
- Holl wasanaethau marchnata a PR, yn cynnwys gweithdai hyfforddiant marchnata a PR, ar gael yn y Gymraeg.
- Creu cynnwys marchnata a PR dwyieithog.
Llefrith Cybi
- Gallwch ein e-bostio yn Gymraeg
- Gallwch siarad Cymraeg gyda ni
- Mae'r cyfryngau cymdeithasol i gyd yn ddwyieithog
- Mae arwyddion a hysbysebion i gyd yn ddwyieithog.
Llenyddiaeth Cymru
- Mae aelodau staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddelio ag ymholiadau ffôn, e-bost neu wyneb yn wyneb.
- Mae yr holl wybodaeth a gaiff ei gyhoeddi ar eu gwefan a’u sianeli cyfryngau cymdeithasol ar gael yn y Gymraeg.
- Mae eu prosiectau sydd yn dathlu cyfoeth treftadaeth llenyddol Cymru yn y ddwyieithog.
- Maent yn anelu at gynorthwyo targed y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 drwy fuddsoddi mewn prosiectau cyffrous ac arloesol drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Maent yn addysgu gwesteion o du hwnt i Gymru am y Gymraeg a diwylliant Cymru yn eu canolfan ysgrifennu cenedlaethol Llenyddiaeth Cymru, Tŷ Newydd.
Llofft
- Hyderus wrth roi’r Gymraeg yn gyntaf ym mhob agwedd o’n cyfathrebu – gan gynnwys eu gwefan a chyfrifon cymdeithasol.
- Creu swyddi newydd ar gyfer pobl leol mewn lleoliad sydd yng nghalon y gymuned, lle mae defnydd naturiol o’r iaith Gymraeg o ddydd i ddydd yn ganolog, a lle cefnogir datblygu sgiliau Cymraeg ymhellach.
- Cynnig cyrchfan i bobol gymdeithasu mewn amgylchedd Cymreig a thrwy gyfrwng y Gymraeg gan hybu chwilfrydedd a diddordeb mewn dysgu mwy am y Gymraeg i rai sydd ddim yn gwybod amdani neu wedi cael mynediad iddi hyd yma. Mae eu holl staff blaen tŷ yn siarad Cymraeg ac yn gwisgo nwyddau Iaith Gwaith
- Cynnig profiad bwyd ac yfed newydd cyfoes sydd a cefnlen stori a threftadaeth morwrol y Felinheli oedd gynt yn borthladd allforio llechi i’r byd. Bydd ein holl fwydlenni yn ddwyieithog.
- Mae Llofft yn croesawu’r cyfle i gyd-ddathlu diwylliannau amrywiol.
Lloyd Evans & Hughes
- Maent yn cynnig gwasanaeth gynhwysfawr yn y Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig - ym mhob un o’r meysydd cyfraith isod:
- Cyfraith Teulu
- Ewyllysiau, Profiant a Pŵer Atwrnai
- Llys Amddiffyn
- Achosion Sifil
- Cyfryngu
Meithrinfa Caban Ogwen
- Siarad Cymraeg gyda y plant
- Gohebiaeth yn mynd allan yn ddwyieithog i bawb
- Hysbysebu unrhyw ohebiaeth Cymraeg sydd yn dod yma e.e. Mudiad Meithrin. Maent yn pasio negeseuon ymlaen i’r rhiant.
- Arwyddion Cymraeg
- Staff i wisgo adnoddau Iaith Gwaith er mwyn adnabod siaradwyr Cymraeg.
Meithrinfa Wibli Wobli
- Maent yn darparu gwasanaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg i blant 2-5 oed. Maent yn cyflwyno plant ac yn eu trochi yn yr iaith Gymraeg ac yn darparu ystod o weithgareddau a phrofiadau ysgogol trwy gyfrwng y Gymraeg. Maent yn croesawu asiantaethau allanol i ddarparu gweithgareddau allanol trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd, gan gynnwys Sparklab Cymru gwyddoniaeth, chwaraeon Urdd Cymru, Animals Interactive experience a Kidslingo Ffrangeg a Sbaeneg.
- Gwahoddir y plant i ddysgu am eu cymuned leol a thirnodau “ein cymuned” gan gynnwys tripiau i lefydd lleol. Cynhaliwyd Eisteddfod Wibli Wobli fechan yn ystod Wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst lle bu plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau tebyg, cystadlaethau a dawns, paent wyneb, celf ayb. Maent yn cyfathrebu ag ysgol Gymraeg ym Mhatagonia ac yn rhannu eu profiadau a’u diwylliant gwahanol gyda nhw.
- Maent hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda rhieni a gofalwyr gyda phlant yn y lleoliad ac yn y gymuned leol yn ei chyfanrwydd i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y cartref. Maent yn cyfathrebu â chwsmeriaid yn ddwyieithog trwy ap y feithrinfa, cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau ac e-bost. Maent yn darparu gwybodaeth am apiau, llyfrau sain ac adnoddau Cymraeg y gellir eu defnyddio gartref. Maent yn darparu gwasanaeth llyfrgell lle gall rhieni fenthyg llyfrau Cymraeg yn rhad ac am ddim. Mae plant yn cymryd eu tro i fynd â Mr Wibbles a Mr Wobbles adref am yr wythnos i ymweld â’r gymuned leol ac ysgrifennu am eu hanturiaethau, yn ddelfrydol yn Gymraeg neu gan ddefnyddio rhai geiriau Cymraeg.
- Maent hefyd yn darparu sesiynau Ti a Fi misol rhad ac am ddim i rieni a gofalwyr yn yr ardal leol ble maent yn darparu chwarae am ddim, coffi a the i oedolion, gweithgareddau i’r plant a chaneuon Cymraeg ac amser cylch ar y diwedd.
Mentera
- Mae'r cwmni yn falch o'i ddelwedd gorfforaethol Gymraeg ac yn hyrwyddo ei hun fel gweithle lle gellir defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd.
- Rhoddir cynnig rhagweithiol o'r Gymraeg i'w cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaethau trwy gychwyn sgyrsiau yn Gymraeg.
- Bydd staff yn sicrhau fod defnyddwyr gwasanaethau yn ymwybodol o werth economaidd y Gymraeg i'w busnesau ac fe roddir pob anogaeth a chefnogaeth i fusnesau sydd yn dymuno cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn eu busnesau - trwy gyfeirio at gymorth priodol.
- Parhau i gefnogi staff i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg fel eu bod yn magu hyder i ddefnyddio'r iaith gyda cwsmeriaid i'r lefel sy'n ddymunol ar gyfer y swydd.
- Rhoi blaenoriaeth i'r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth ddwyieithog y cwmni. Cymraeg yw iaith prif bwyllgorau'r cwmni gan gynnwys Y Bwrdd a'r Pwyllgor Rheoli ac fe ddarperir offer cyfieithu yn ôl yr angen mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol.
Menter Iaith Casnewydd – Clybiau Sbort a Sbri
- Cynnig clybiau ar ol ysgol a chlybiau gwyliau i blant sy’n mynychu ysgolion gynradd Cymraeg yng Nghasnewydd.
- Codi ymwybyddiaeth ymysg rhieni o’u darpariaeth Gymraeg a’u hannog i ddenfyddio’r Gymraeg gyda’i plant
- Trefnu sesiynau Hwyl i’r Teulu yn ystod y gwyliau ysgol – creu cyfleoedd i rieni ymarfer eu Cymraeg mewn amgylchedd groesawgar ac anfeirniadol
Metro Bank
- Bydd modd adnabod siaradwyr Cymraeg yn eu siopau yng Nghymru am eu bod yn gwisgo logo Iaith Gwaith.
- Mae presenoldeb amlwg o’r Gymraeg yn eu siopau i gwsmeriaid a chydweithwyr, yn cynnwys arwyddion a deunydd hyrwyddo.
- Mae Parth Arian, eu rhaglen addysg ariannol am ddim i ysgolion a grwpiau ieuenctid, yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg neu Saesneg, yn dibynnu ar iaith ddewisol y grŵp.
- Os wnewch chi ysgrifennu atyn nhw yn Gymraeg, byddent yn ymateb yn Gymraeg.
- Maent yn rhoi’r cyfle i staff ddysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg.
Mind Cymru
- Mae eu gwybodaeth iechyd meddwl mwyaf poblogaidd a chynnwys eu gwefan ar gael yn Gymraeg.
- Mae gwasanaethau iechyd meddwl Cymru-gyfan Mind ar gael yn Gymraeg. Mae dewis cyfathrebu yn Gymraeg yn gam awtomatig hawdd i unrhyw un sy’n cysylltu â Mind, a byddent yn cyfathrebu yn eich dewis iaith bob tro pan fydd hynny’n bosibl.
- Maent yn hyrwyddo eu gwasanaethau a’u gwybodaeth yn ddwyieithog ac yn sicrhau bod profiadau iechyd meddwl siaradwyr Cymraeg yn cael eu hadlewyrchu yn eu deunydd marchnata.
- Maent yn cefnogi ac yn annog defnydd o'r Gymraeg yn eu gweithle trwy recriwtio siaradwyr Cymraeg yn rhagweithiol, darparu gwersi Cymraeg ar gyfer gweithwyr Mind Cymru ac annog defnydd anffurfiol o’r Gymraeg yn y gwaith.