Darparu o leiaf un prosiect Cymraeg ar eu platfform bob amser
Darparu o leiaf un cyfle neu ddigwyddiad gwirfoddoli untro trwy gyfrwng y Gymraeg bob mis
Cydweithio ag Academi Hywel Teifi ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe i ymgysylltu â myfyrwyr Cymraeg eu hiaith
Darparu cyfathrebiadau dwyieithog lle bo modd, gan gynnwys yn e-bost wythnosol Discovery, ar llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a deunyddiau cyhoeddusrwydd
Cynnig hyfforddiant sgiliau iaith Gymraeg i staff a gwirfoddolwyr bob tymor.
Mae eu gwefan yn gwbl ddwyieithog ac mae’n glir sut i lywio rhwng y tudalennau Cymraeg a Saesneg drwy ddewis yr iaith o’ch dewis ar frig pob tudalen.
Gallwch ysgrifennu atynt yn Gymraeg a derbyn ateb yn Gymraeg ar unrhyw adeg.
Gallwch adnabod eu staff sy’n siarad Cymraeg wrth y logo Iaith Gwaith yn eu llofnod e-bost.
Mae eu holl adnoddau allweddol a blogiau canllaw ar gyfer addysgwyr ar gael yn Gymraeg.
Mae eu cwrs Diogelu ar gael yn Gymraeg, sy’n orfodol i bob aelod o staff addysgu newydd ei gwblhau wrth ymuno â’u tîm. Bydd eu holl gyrsiau dysgu proffesiynol eraill ar gael yn Gymraeg yn fuan hefyd.
Mae cynnwys eu cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog ac mae croeso i chi gysylltu â nhw yn Gymraeg trwy eu sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mae hunaniaeth a delwedd Esgobaeth Bangor yn gwbl ddwyieithog. Bydd egwyddor o gydraddoldeb bob amser, gyda'r Gymraeg yn ymddangos uwchben neu o flaen y Saesneg.
Maent yn ceisio sicrhau bod pob neges yn cael ei roi’n ddwyieithog ac ar yr un pryd ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ogystal maent yn ymrwmiedig i ddarparu gwefan cwbl ddwyieithog.
Maent yn ymdrechu i annog a chefnogi staff sy'n dymuno dysgu Cymraeg a chefnogi staff sy'n siarad Cymraeg sydd eisiau gwella eu sgiliau iaith bob amser.
Maent yn annog unigolion i deimlo’n yn gyfforddus i ddefnyddio eu dewis iaith ffydd wrth addoli. Maent hefyd yn yr un modd yn annog unigolion i gysylltu â nhw yn eu dewis iaith.
Maent yn rhoi cynnig rhagweithiol o’r Gymraeg i bawb drwy gychwyn sgyrsiau yn Gymraeg.
Drwy groesawu gwesteion a staff o du hwnt i Gymru i Esgobaeth Bangor byddant yn eu haddysgu ynglŷn â'r Gymraeg a diwylliant Cymru.
Gwefan ddwyieithog Pob gohebiaeth yn cael ei gynnig yn Gymraeg Datganiadau a chyswllt gyda'r wasg yn Gymraeg Holl gyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg neu'n ddwyieithog Hybu cerddorion i ganu yn Gymraeg
Cymraeg yw iaith GISDA, mae eu delwedd gyhoeddus a hunaniaeth gorfforaethol yn gwbl Gymraeg.
Maent yn rhoi cynnig rhagweithiol o’r Gymraeg i’w cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth drwy gychwyn sgyrsiau yn Gymraeg.
Mae eu gweithwyr allweddol yn hyrwyddo pwysigrwydd sgiliau dwyieithog a’r cyfleoedd swyddi lleol a chenedlaethol sydd ar gael o ganlyniad wrth iddynt derbyn hyfforddiant a datblygu sgiliau.
Bydd GISDA yn parhau i gefnogi eu gweithlu i fod yn hyderus i ddarparu gwasanaethau, cefnogaeth a phrosiectau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Drwy groesawu gwesteion a thwristiaid o du hwnt i Gymru i Gaffi GISDA, meny yn eu haddysgu ynglŷn â'r Gymraeg a diwylliant Cymru.