· Maent yn darparu gwasanaethau dwyieithog ar gyfer goroeswyr strôc drwy eu gwasanaethau wyneb yn wyneb a’u llwyfan ar-lein, Fy Nghanllaw Strôc.
· Maent yn monitro ac yn cofnodi dewisiadau iaith defnyddwyr y gwasanaeth, a phan wyddent beth yw dewis iaith unigolyn, eu nod fydd ysgrifennu atynt yn eu hiaith ddewisol.
· Maent yn hyrwyddo argaeledd eu gwasanaethau Cymraeg drwy eu sianeli cyfathrebu allanol, yn cynnwys eu gwefan a’u sianeli cyfryngau cymdeithasol.
· Bydd holl aelodau staff a leolir yng Nghymru yn ateb y ffôn â chyfarchiad dwyieithog, yn cynnwys negeseuon peiriant ateb wedi’u recordio ymlaen llaw, a bydd troedynnau e-byst a negeseuon e-byst y tu allan i oriau arferol y swyddfa yn ddwyieithog.
· Bydd yr holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd neu ddeunyddiau ysgrifenedig eraill sydd â’r nod o gyrraedd cynulleidfa yng Nghymru yn ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
o Tudalennau cyfryngau cymdeithasol Cymru
o Datganiadau i’r wasg a gyhoeddwyd ymlaen llaw
o Taflenni am ddigwyddiadau a gwasanaethau
o Gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol am ofal strôc yng Nghymru
o Adrannau o’u gwefan sy’n benodol i Gymru
o Baneri ac arddangosfeydd naid
o Cylchlythyrau
Byddant yn gwneud ymdrechion i ddarparu astudiaethau achos a llefarwyr Cymraeg eu hiaith ar gyfer y cyfryngau.
Maent yn awyddus i recriwtio siaradwyr Cymraeg ar gyfer swyddi yng Nghymru. Byddant yn paratoi hysbysebion swyddi yn ddwyieithog ac yn sicrhau y gall ymgeiswyr ymgeisio yn Gymraeg am swyddi. Maent hefyd yn annog ac yn cefnogi staff cyfredol sy’n dymuno dysgu Cymraeg.