Mae'r holl wasanaethau ar gael yn y Gymraeg, gan gynnwys creu cynnwys, rhedeg hysbysebion digidol a hyfforddiant yn y maes cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol.
Lidl
Arwyddion dwyieithog y tu mewn a thu allan i’nsiopau yng Nghymru
Cyhoeddiadau sain dwyieithog yn y siop
Sticeri siaradwr Cymraeg ar fathodynnau enw
Gwasanaethau cwsmeriaid yn cynnig ymatebion ysgrifenedig yn y Gymraeg
Mae pecynnau cynnyrch eu hunain, gan gynnwys llaeth, caws, cig a menyn yn ddwyieithog.
Mae aelodau staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddelio ag ymholiadau ffôn, e-bost neu wyneb yn wyneb.
Mae yr holl wybodaeth a gaiff ei gyhoeddi ar eu gwefan a’u sianeli cyfryngau cymdeithasol ar gael yn y Gymraeg.
Mae eu prosiectau sydd yn dathlu cyfoeth treftadaeth llenyddol Cymru yn y ddwyieithog.
Maent yn anelu at gynorthwyo targed y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 drwy fuddsoddi mewn prosiectau cyffrous ac arloesol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Maent yn addysgu gwesteion o du hwnt i Gymru am y Gymraeg a diwylliant Cymru yn eu canolfan ysgrifennu cenedlaethol Llenyddiaeth Cymru, Tŷ Newydd.
Hyderus wrth roi’r Gymraeg yn gyntaf ym mhob agwedd o’n cyfathrebu – gan gynnwys eu gwefan a chyfrifon cymdeithasol.
Creu swyddi newydd ar gyfer pobl leol mewn lleoliad sydd yng nghalon y gymuned, lle mae defnydd naturiol o’r iaith Gymraeg o ddydd i ddydd yn ganolog, a lle cefnogir datblygu sgiliau Cymraeg ymhellach.
Cynnig cyrchfan i bobol gymdeithasu mewn amgylchedd Cymreig a thrwy gyfrwng y Gymraeg gan hybu chwilfrydedd a diddordeb mewn dysgu mwy am y Gymraeg i rai sydd ddim yn gwybod amdani neu wedi cael mynediad iddi hyd yma. Mae eu holl staff blaen tŷ yn siarad Cymraeg ac yn gwisgo nwyddau Iaith Gwaith
Cynnig profiad bwyd ac yfed newydd cyfoes sydd a cefnlen stori a threftadaeth morwrol y Felinheli oedd gynt yn borthladd allforio llechi i’r byd. Bydd ein holl fwydlenni yn ddwyieithog.
Mae Llofft yn croesawu’r cyfle i gyd-ddathlu diwylliannau amrywiol.
Maent yn darparu gwasanaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg i blant 2-5 oed. Maent yn cyflwyno plant ac yn eu trochi yn yr iaith Gymraeg ac yn darparu ystod o weithgareddau a phrofiadau ysgogol trwy gyfrwng y Gymraeg. Maent yn croesawu asiantaethau allanol i ddarparu gweithgareddau allanol trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd, gan gynnwys Sparklab Cymru gwyddoniaeth, chwaraeon Urdd Cymru, Animals Interactive experience a Kidslingo Ffrangeg a Sbaeneg.
Gwahoddir y plant i ddysgu am eu cymuned leol a thirnodau “ein cymuned” gan gynnwys tripiau i lefydd lleol. Cynhaliwyd Eisteddfod Wibli Wobli fechan yn ystod Wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst lle bu plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau tebyg, cystadlaethau a dawns, paent wyneb, celf ayb. Maent yn cyfathrebu ag ysgol Gymraeg ym Mhatagonia ac yn rhannu eu profiadau a’u diwylliant gwahanol gyda nhw.
Maent hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda rhieni a gofalwyr gyda phlant yn y lleoliad ac yn y gymuned leol yn ei chyfanrwydd i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y cartref. Maent yn cyfathrebu â chwsmeriaid yn ddwyieithog trwy ap y feithrinfa, cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau ac e-bost. Maent yn darparu gwybodaeth am apiau, llyfrau sain ac adnoddau Cymraeg y gellir eu defnyddio gartref. Maent yn darparu gwasanaeth llyfrgell lle gall rhieni fenthyg llyfrau Cymraeg yn rhad ac am ddim. Mae plant yn cymryd eu tro i fynd â Mr Wibbles a Mr Wobbles adref am yr wythnos i ymweld â’r gymuned leol ac ysgrifennu am eu hanturiaethau, yn ddelfrydol yn Gymraeg neu gan ddefnyddio rhai geiriau Cymraeg.
Maent hefyd yn darparu sesiynau Ti a Fi misol rhad ac am ddim i rieni a gofalwyr yn yr ardal leol ble maent yn darparu chwarae am ddim, coffi a the i oedolion, gweithgareddau i’r plant a chaneuon Cymraeg ac amser cylch ar y diwedd.