
Sefydliadau sydd â'r Cynnig Cymraeg
Alzheimer's Cymru
- Drwy eu gwasanaeth Cyswllt Dementia Connect, byddwch yn gallu
siarad â Chynghorwyr Dementia Cymraeg eu hiaith ac yn derbyn
gwybodaeth a chymorth ymatebol, unigolyddol ac empathig. - Byddwch yn gallu darllen eu taflenni gwybodaeth a chyngor mwyaf
poblogaidd, yn ogystal ag adroddiadau allweddol eraill ac adnoddau
hyrwyddo yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. - Cynorthwyo i gyfathrebu yn Gymraeg, lle bynnag y bo’n
bosibl, ac ymdrechu i sicrhau na fyddwch yn profi unrhyw
oedi. - Ymdrechu i hyrwyddo a chyflenwi’n gwasanaethau,
gweithgareddau a’i digwyddiadau’n ddwyieithog i sicrhau eu bod
yn cyrraedd cynifer o bobl yr effeithir arnynt gan ddementia ag y bo
modd, yn cynnwys y fenter ymwybyddiaeth gyhoeddus, Ffrindiau
Dementia. - Caiff profiad o fywyd pobl yr effeithir arnynt gan ddementia, lle
mae’r Gymraeg yn iaith ddewisol ganddynt, ei adlewyrchu yn eu
gweithgareddau a’n hadnoddau. - Cefnogi ac annog y Gymraeg yn ein gweithle ac yn
recriwtio’n rhagweithiol weithwyr a gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith,
lle y bo’n briodol. - Cynorthwyo ac yn cynnig hyfforddiant i’w gweithwyr iddynt
allu ennill sgiliau siarad Cymraeg ac yn defnyddio’r symbol Iaith
Gwaith ar e-byst, lle y bo’n briodol. - Croesawu ohebiaeth yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg.
- Cynhyrchu datganiadau dwyieithog i’r wasg lle mae’n
ofynnol, a chynnwys Cymraeg ar eu gwefan a’i sianeli
cyfryngau cymdeithasol. - Mae eu delwedd a’n hunaniaeth gyhoeddus, yn cynnwys ein logo, yn
ddwyieithog yng Nghymru.
Ani-bendod
- Defnyddio’r Gymraeg yn falch ar y cyfryngau cymdeithasol
- Defnyddio’r Gymraeg ar eu nwyddau ac yn dathlu’r Gymraeg trwy ddefnyddio ymadroddion a dywediadau poblogaidd ar ein dillad
- Mae Cefn Gwlad yn ran annatod o’n busnes, hoff o ddefnyddio idiomau a dyluniadau sy’n adlewyrchu hyn
- Gallwch gysylltu gyda nhw yn Gymraeg drwy ein cyfrifon Cymdeithasol a hefyd dros e-bost
- Deunyddiau marchnata yn ddwyieithog
- Gallwch siarad Cymraeg â nhw wrth ymweld â ni mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod a’r Sioe Frenhinol
- Cydweithio gyda chlybiau ffermwyr ifanc a sefydliadau amrywiol i greu dillad ar gyfer amryw o ddigwyddiadau megis codi arian
- Gwasanaethu busnesau bach a mawr gyda dillad wedi brandio.
Antur Aelhaearn
- Bydd Antur Aelhaearn yn cynnig gwasanaeth yn Gymraeg yn rhagweithiol i’r aelodau ac i fynychwyr gweithgareddau.
- Bydd Antur Aelhaearn yn parhau i weithio’n hyderus i ddarparu prosiectau a gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Bydd yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned, ac yn annog eraill i wneud hefyd.
- Mewn cyfarfodydd blynyddol cyffredinol bydd cyfarpar cyfieithu yn cael ei ddarparu
- Bydd adroddiad blynyddol y cadeirydd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Antur Waunfawr
- Cyfarch ein cwsmeriaid yn ddwy ieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf.
- Cymraeg yw iaith gweithredu a gweinyddu.
- Ble mae’n bosib, rydym yn cefnogi busnesau lleol Cymraeg ac yn defnyddio cynnyrch lleol.
- Ymateb yn Gymraeg i unrhyw ohebiaeth rydym yn ei dderbyn yn Gymraeg
- Ymateb i ohebiaeth Saesneg yn ddwyieithog - y Gymraeg hefyd.
- Hyrwyddo eu gwasanaethau yn ddwyieithog, mae’r wefan a thudalennau cymdeithasol megis trydar a Facebook i gyd yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg yn gyntaf.
- Cefnogi ac yn annog yr iaith Gymraeg yn y gweithle, yn defnyddio Cymraeg ffurfiol ag anffurfiol
- Cynnal ffeiriau swyddi a cyfweliadau am swyddi yn y Gymraeg
- Unigolion efo anableddau dysgu yn cael gwasanaeth drwy'r Gymraeg
- Cynnal cyfweliadau i'r cyfryngau yn y Gymraeg - S4C, Radio Cymru, BBC
- Gwneud cyflwyniadau corfforaethol cyhoeddus yn y Gymraeg
- Sesiynau Sgiliau Beicio - swyddog Cymraeg yn mynd allan i ysgolion cynradd i ddysgu sgiliau beicio diogel.
- Cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiadau gwaith yn y Gymraeg
- Is-Reolwraig iechyd a llesiant yn mynd o amgylch ysgolion uwchradd i rannu cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiadau gwaith sydd ar gael yn Antur Waunfawr.
- Gallwch adnabod aelodau o staff a gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg gyda nwyddau Iaith Gwaith.
Arad Goch
- Darparu’r un cynyrchiadau theatr yn y Gymraeg, Saesneg, neu hyd yn oed yn ddwyieithog os oes angen hyrwyddo’r Iaith Gymraeg o fewn ardal sydd yn defnyddio llai o Gymraeg.
- Delio gydag unrhyw ymholiad drwy’r Gymraeg - boed yn alwad ffôn, e-bost, neu wyneb yn wyneb.
- Hyrwyddo Cymru a’r iaith Gymraeg yng Ngŵyl Theatr Ryngwladol i Gynulleidfaoedd Ifanc.
- Hyrwyddo Cymru a’r iaith Gymraeg pan yn teithio ein gwaith dramor.
- Sicrhau bod eu gwaith marchnata - boed yn adroddiad blynyddol, neu’n daflen hysbysebu, yn ddwyieithog, ac yn annog y di-gymraeg i ddod i weld y gwaith.
Artes Mundi
• Maent yn darparu deunyddiau dwyieithog ar gyfer eu holl arddangosfeydd, prosiectau, gweithgareddau dysgu a rhaglenni cyhoeddus.
• Maent yn creu traethodau a thestunau dwyieithog yng nghatalog yr arddangosfeydd.
• Maent yn darparu adnoddau cymorth hygyrch Cymraeg ar gyfer yr holl sgyrsiau cyhoeddus, seminarau, perfformiadau, dangosiadau a fforymau artistiaid
• Maent yn comisiynu cynnwys Cymraeg gwreiddiol, creadigol a gynhyrchir gan siaradwyr Cymraeg fel rhan o’u cylchgrawn ar-lein
• Maent yn datblygu gweithgareddau dysgu yn Gymraeg gan gynnwys teithiau, gweithdai i deuluoedd ac ysgolion yn ogystal ag ymwelwyr cyffredinol, a phrosiectau cymunedol.
• Maent yn darparu adnoddau dysgu dwyieithog i athrawon
• Mae ganddynt wefan gwbl ddwyieithog a hygyrch, ac yn creu cylchlythyrau chwarterol.
• Hysbysir pob hysbysiad cyhoeddus, swydd a chyfle yn ddwyieithog. Darperir dogfennaeth ategol yn ddwyieithog.
• Maent yn cefnogi staff sy’n dymuno dysgu neu ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, ac i wneud hynny yn ystod eu horiau gwaith.
Artis Community Cymuned
- Trefnu a hyrwyddo gweithgareddau yn Gymraeg, gan gynnwys:
- Crefft a Chlonc: Gweithgareddau i bobl hyn sy’n profi unigedd.
- Todl Wodl: Gweithgareddau creadigol i rieni/gwarchodwyr a phlant blynyddoedd
cynnar i ddysgu Cymraeg ar y cyd a pharatoi’r plant ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg - Cynnal labordy iaith: Rhaglen Y Corff Creadigol, sy’n cefnogi artistiaid i ddatblygu arfer dwyieithog.
- Boreau Coffi: Cyfle i unrhyw un ymarfer siarad Cymraeg dros baned.
- Mae eu gwefan a'r cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog
- Cynnig cyfleoedd datblygu’r Gymraeg i’w holl weithwyr.
Asiannt Cyf
- Gallwch siarad a gohebu yn Gymraeg, boed hynny’n wyneb i wyneb, dros y ffôn, neu drwy e-bost.
- Cewch gyfleoedd i dderbyn hyfforddiant yn Gymraeg neu’n ddwyieithog
- Mae delwedd y cwmni yn gwbl ddwyieithog
- Byddant yn eich annog i gychwyn sgwrs yn Gymraeg drwy ddefnyddio nwyddau Iaith Gwaith.
- Mae'r cwmni yn gweithredu’n fewnol yn Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o waith cynllunio a bydd unrhyw wasanaeth newydd, fel y wefan, ar gael yn ddwyieithog.
Atebol
- Gallwch gysylltu dros y ffôn, e-bost neu drwy’r post yn y Gymraeg.
- Mae'r wefan yn gwbl ddwyieithog
- Mae'r holl negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog
- Mae Atebol yn falch o greu adnoddau sy’n cynorthwyo ac annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg
- Maent yn cefnogi ein staff i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg
- Mae Atebol yn dod â’r Gymraeg yn fyw mewn cartrefi ac ystafelloedd dosbarth, gan ei gwneud yn hygyrch i bawb.