- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni cyhoeddodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg (y Comisiwn) ei adroddiad Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg yn dilyn dwy flynedd o gasglu tystiolaeth am gymunedau sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg. Rwy’n ddiolchgar i’r Comisiwn am eu gwaith manwl a didwyll, ac am fy nghynnwys i a fy swyddogion yn y broses o gasglu’r tystiolaeth a llunio argymhellion.
Prif argymhelliad y Comisiwn yw bod angen i Lywodraeth Cymru ddeddfu er mwyn rhoi statws swyddogol i ardaloedd yng Nghymru lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg. Yn ôl y Comisiwn byddai hyn yn galluogi datblygu polisïau cyhoeddus sydd wedi eu teilwra i anghenion unigryw yr ardaloedd yma. Mae’r adroddiad yn manylu ar sut gellid amrywio polisi cyhoeddus er mwyn sefydlogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol o fewn yr ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch, ac yn gwneud 57 o argymhellion mewn meysydd fel addysg, cynllunio gwlad a thref, datblygu cymunedol a’r economi.
Mae ystadegau’r cyfrifiad, a’r dadansoddiad manwl o’r ystadegau hynny yn yr adroddiad, yn dangos yn glir bod sefydlogrwydd y Gymraeg yn yr ardaloedd lle mae’r dwysedd uchaf o’i siaradwyr yn dirywio. Golyga hyn fod bygythiad mawr i hyfywedd y Gymraeg, nid yn unig yn yr ardaloedd hynny, ond hefyd ar lefel genedlaethol.
Mae ardaloedd yng Nghymru ble mae’r Gymraeg yn iaith fwyafrifol ac yn cael ei throsglwyddo o un cenhedlaeth i'r llall. Os ydyn ni o ddifri am gryfhau sefyllfa'r Gymraeg ar lefel Cymru gyfan, rhan allweddol o hyn fydd atal dirywiad pellach yn yr ardaloedd hyn. Rydym felly yn cytuno â’r egwyddor o sefydlu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch fel cerbyd fyddai’n galluogi cyflwyno amrywiadau polisi yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf.
Ni fyddai sefydlu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn golygu israddio statws y Gymraeg mewn rhannau eraill o Gymru, ond yn hytrach yn cydnabod yr angen i ddatblygu a gweithredu polisïau sydd wedi eu teilwra i gyd-destunau ieithyddol amrywiol. Yn y cyd-destun hwn rydym yn croesawu’n fawr bod y Comisiwn yn symud ymlaen dros y flwyddyn nesaf i ystyried ymyraethau polisi sydd eu hangen mewn ardaloedd lle mae dwysedd is o siaradwyr Cymraeg, sy’n amserol iawn yn dilyn y brwdfrydedd a’r egni y profwyd yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf.
Y tu hwnt i’r egwyddor cyffredinol o sefydlu ardaloedd arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch rydym yn croesawu argymhellion y Comisiwn sy’n ymwneud â safonau’r Gymraeg a’n gwaith ni fel rheoleiddiwr. Yn hyn o beth mae’r argymhelliad i edrych ar berthnasedd y safonau hybu i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn un diddorol.
Yn ystod ein trafodaethau â’r Comisiwn, fe wnaethom nodi potensial y safonau hybu ar gyfer cynllunio mwy uchelgeisiol a manwl er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg. Mae’r gofynion ar gyfer strategaethau hybu yn weddol gyfyngedig ar hyn o bryd, ond mae potensial i fod yn llawer fwy penodol o ran cynnwys a chwmpas y strategaethau. Er enghraifft, byddai’n bosib sicrhau bod y strategaethau’n cael eu hystyried ochr yn ochr â’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a fframweithiau cynllunio eraill, fel y cynlluniau datblygu lleol. Byddai ymagwedd holistig felly yn arwain at greu strategaethau a chynlluniau fyddai’n ategu’i gilydd ac yn cyfrannu i'r eithaf at gyflawni amcanion Cymraeg 2050.
Yn yr un modd mae’r argymhellion ynghylch cynyddu defnydd mewnol o'r Gymraeg o fewn sefydliadau cyhoeddus yn cyd-fynd â’n blaenoriaethau strategol ni fel sefydliad. Fel y Comisiwn, rydym yn awyddus iawn i ddefnyddio safonau’r Gymraeg fel arf ar gyfer symud sefydliadau ar hyd continwwm ieithyddol ac i annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg wrth weithio ac wrth ddarparu gwasanaethau. Yn bresennol, mae gofynion am y strategaethau hybu a gweithredu mewnol ar wahân yn y safonau. Er hynny, byddai cynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn gweithleoedd yn ffordd effeithiol o hybu’r Gymraeg yn ehangach o fewn y cymunedau mae’r cyrff sy’n gweithredu’r safonau yn eu gwasanaethu. Mae mwy y gallwn ni wneud yn y cyd-destun hwn, ac rydym yn meddwl bod y cynnig i adolygu gofynion safonau’r Gymraeg yn gam cadarnhaol all hwyluso ein gwaith ni.
Yn ychwanegol i’r uchod cyniga’r Comisiwn nifer helaeth o argymhellion polisi sylweddol mewn meysydd amrywiol gan gynnwys addysg, cynllunio a thai, a datblygu economaidd. Ond mae'r adroddiad, yn ddigon naturiol, yn cydnabod bod angen gwaith pellach er mwyn datblygu cynigion polisi pendant fydd yn adeiladu ar yr argymhellion hynny. Fe fydd trafod â rhanddeiliaid allweddol yn hollbwysig wrth i’r broses honno fynd rhagddi, ac edrychwn ymlaen i ddadansoddi’r argymhellion mewn manylder er mwyn ystyried sut orau y gallwn ni gyfrannu at yr ymdrechion i ddatblygu’r syniadau ymhellach.
Yn y cyfamser, rydym hefyd wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn annog y Llywodraeth i ymateb yn gadarnhaol i brif argymhelliad y Comisiwn, sef y dylid sefydlu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch. Mae’n rhaid gweithredu os am gynnal a chryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol, a byddai sefydlu’r ardaloedd yn gam cychwynnol arwyddocaol er mwyn cyflawni hyn.