Cynllun Mentora

Beth yw Cynllun Mentora? 

Mae cynllun mentora yn dod a dau at ei gilydd i ymarfer sgwrsio yn Gymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth neu wersi ffurfiol. Mewn cyfarfodydd byr a chyson gall siaradwr Cymraeg mwy profiadol helpu rhywun sy’n dysgu i ymarfer a chynyddu hyder. Mae sgwrsio yn anffurfiol yn ffordd o ddod â gwersi yn fyw, gan roi cyfle i ymarfer trafod pynciau amrywiol a rhannu profiadau a barn.  

Beth yw rôl y mentor? 

Bod yn gyfaill i’r dysgwr, er mwyn eu gwneud yn fwy cyfforddus wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Byddant yn sgwrsio am bynciau amrywiol, fel arfer y tu hwnt i’r gwaith, er mwyn canolbwyntio ar yr anffurfiol. Does dim disgwyl i’r mentor gywiro iaith na gramadeg, dim ond creu cyfle i sgwrsio.  

Sut mae’n gweithio? 

Mae mentoriaid yn gwirfoddoli eu hamser i sgwrsio gyda’r dysgwyr. Dylai’r ddau gytuno ar ba mor aml, ac am ba mor hir i gwrdd. Gall cyfarfodydd ddigwydd wyneb yn wyneb neu ar-lein ond dylent fod yn rheolaidd er mwyn sicrhau cyfleoedd cyson i ymarfer. 

Fel sefydliad, bydd angen i chi fod â syniad o sgiliau iaith eich staff er mwyn gwybod pwy fydd yn addas i gymryd rhan yn y cynllun.  

Byddai’n syniad da i ddarparu canllawiau i gefnogi eich mentoriaid, er mwyn sicrhau bod pawb yn glir o ddisgwyliadau’r rôl, a sut mae’n gweithio o gwmpas eu swyddi presennol. Gallech greu fforwm neu rhywle ble gall mentoriaid hefyd drafod a rhannu profiadau o’r rôl.  

Beth yw’r manteision? 

Mae’n gallu bod yn anodd newid arferion wrth siarad gyda rhywun. Os oes rhywun yn gyfarwydd â siarad Saesneg gyda dysgwr, gall fod yn anodd newid i siarad Cymraeg felly mae cynllun mentora yn rhoi strwythur i helpu newid arferion iaith.  

Manteision i’r dysgwr 

  • Gallu ymarfer sgiliau Cymraeg gyda mentor cefnogol a chyfeillgar
  • Cael cyfle i siarad Cymraeg yn gyson yn y gweithle ond mewn awyrgylch anffurfiol
  • Adeiladu perthynas gyda chydweithiwr o dimoedd neu adrannau eraill yn y sefydliad, gan gryfhau synnwyr tîm o fewn y sefydliad
  • Atgyfnerthu’r hyn sy’n cael ei ddysgu yn y gwersi a rhoi blas ar sgwrsio go iawn

Manteirion i'r mentor

  • Cael boddhad o ddatblygiad sgiliau'r dysgwr
  • Defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn gyson mewn awyrgylch anffurfiol
  • Cyfrannu at ethos dwyieithog y sefydliad drwy gefnogi datblygiad sgiliau Cymraeg cydweithwyr
  • Gwneud cyfraniad yn y sefydliad, gall fod yn fanteisiol wrth ymgeisio am swyddi
  • Adeiladu perthynas gyda chydweithiwr o dimoedd neu adrannau eraill yn y sefydliad, gan gryfhau synnwyr tîm o fewn y sefydliad 

Manteision i’r sefydliad 

  • Cynyddu ethos dwyieithog y sefydliad drwy greu fforymau bach cyson i staff i arfer eu sgiliau Cymraeg (mentoriaid a dysgwyr)
  • Cefnogi ac atgyfnerthu’r rhaglen ddysgu drwy sicrhau bod y dysgwyr yn ymarfer eu sgiliau rhwng y gwersi
  • Adeiladu rhwydweithiau ymysg staff 

Yn ôl gwaith ymchwil, mae dysgwyr sy'n dilyn cynllun mentora 45% yn fwy tebygol o ddod yn rhugl ac 87% yn fwy tebygol o ddefnyddio Cymraeg yn y gweithle ar ryw lefel. 

Gallai sefydlu cynllun o’r fath fod yn ffordd wych o hybu a chefnogi staff i ddefnyddio’r Gymraeg, a chynyddu’r ymdeimlad o dîm o fewn y sefydliad.