
Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb yn eich sefydliad. Nid yw’n gyfrifoldeb ar y swyddog neu uned iaith yn unig; mae gan bawb rôl i’w chwarae.
Gall creu grŵp neu weithgor o bencampwyr iaith fod yn ffordd effeithiol o sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried ar draws eich sefydliad. Trwy gael unigolion ar draws y sefydliad â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, gallwch gefnogi gwaith swyddog iaith a hybu’r Gymraeg. Mae cael pencampwyr iaith mewn gwahanol adrannau yn ei gwneud hi’n haws i rannu negeseuon am y Gymraeg ac yn ffordd o sicrhau statws i'r Gymraeg yn fewnol.
Bydd union rôl a swyddogaeth pencampwr iaith yn amrywio o sefydliad i sefydliad. Yn gyffredinol, dylent fod yn bwynt cyswllt rhwng yr unigolyn neu dîm â chyfrifoldeb am y Gymraeg, ac yn chwilio am gyfleoedd i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yng ngwaith bob dydd y sefydliad o fewn eu timoedd neu adrannau.
Camau i greu rôl pencampwr iaith:
- Adnabod sawl pencampwr sydd eu hangen – fesul tîm, adran neu gyfarwyddiaeth?
- Ar ba lefel swydd dylai’r pencampwr fod?
- Oes angen adnabod pencampwr iaith penodol ar eich bwrdd rheoli / arwain?
- Beth am o fewn unrhyw fwrdd ymddiriedolwyr neu debyg?
- Creu disgrifiad o’r rôl er mwyn sicrhau fod pawb yn deall hyd a lled y gwaith
Cyfrifoldebau pencampwr iaith
Dyma rhai awgrymiadau am y mathau o bethau gall fod yn rhan o rôl pencampwr iaith:
- Mynychu cyfarfodydd (pennu pa mor rheolaidd) gyda’r pencampwyr eraill
- Adrodd ar unrhyw faterion sy’n codi o waith yr adran e.e. anghenion hyfforddi, syniadau hybu’r Gymraeg, unrhyw faterion yn ymwneud â gweithredu’r safonau
- Rhannu gwybodaeth am y Gymraeg gyda’r adran/gyfarwyddiaeth
- Bod yn bwynt cyswllt o ran y Gymraeg i’r staff o fewn yr adran
- Elfen o drosolwg o weithrediad y safonau o fewn yr adran
- Cyfrifoldeb adrodd / casglu tystiolaeth ar gydymffurfiaeth â’r safonau ar gyfer adroddiadau blynyddol
- Hybu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn anffurfiol e.e. unrhyw fentrau fel clybiau sgwrsio, cynlluniau mentora ayyb sy’n bodoli o fewn y sefydliad
- Tynnu sylw at gyfleoedd dysgu neu wella sgiliau Cymraeg
- Hyrwyddo ymgyrchoedd a dyddiadau nodedig yn ymwneud â’r Gymraeg e.e. Dydd Miwsig Cymru, ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg
- Trafod syniadau am beth yn fwy mae posib ei wneud i hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn y sefydliad
- Eiriol dros y Gymraeg
Creu disgrifiad o’r rôl
Anogwn i chi greu disgrifiad rôl ffurfiol i’w rhannu gyda’ch pencampwyr er mwyn i bawb fod yn glir o’u cyfrifoldebau a’r ymrwymiad o ymgymryd â’r rôl. Dylai gynnwys syniad o’r mathau o gyfrifoldebau ac unrhyw ymrwymiad amser tebygol e.e. os oes grŵp o bencampwyr y sefydliad yn cyfarfod, pa mor aml.
Beth am greu ffordd o adnabod eich pencampwyr iaith? Gallai hyn fod trwy logo neu frawddeg ar droedyn e-bost neu wrth broffil staff ar fewnrwyd neu debyg. Gall fod yn fathodyn neu gortyn gwddf ffisegol y mae modd iddynt wisgo o ddydd i ddydd. Bydd defnyddio ffordd o adnabod eich pencampwyr yn ei gwneud hi’n haws i staff fynd atyn nhw am gymorth neu i holi cwestiynau.
Cefnogi eich Pencampwyr Iaith
Rhowch gydnabyddiaeth iddynt am eu rôl yn ysgogi ac annog defnydd o’r Gymraeg yn eich sefydliad. Beth am greu rhywle ble mae modd iddynt siarad â’i gilydd a rhannu syniadau e.e. ffrwd benodol ar Teams. Bydd hwn yn galluogi iddynt holi cwestiynau a rhannu gwybodaeth perthnasol rhwng cyfarfodydd.
Dathlwch gyfraniad eich pencampwyr iaith pan yn adrodd a thrwy rannu gydag eraill.