
Mae arweinyddiaeth yn hollbwysig os ydyn ni am weld mwy o Gymraeg yn cael ei defnyddio o fewn sefydliadau. Pan mae arweinwyr yn rhoi lle amlwg i’r Gymraeg ac yn ei defnyddio’n naturiol, mae’n anfon neges glir: mae’r Gymraeg yn perthyn yma.
Arwain drwy esiampl
Mae’n hawdd gwneud gwahaniaeth – cyfarch yn Gymraeg, defnyddio’r iaith mewn cyfarfodydd, neu ddechrau e-byst gyda “Bore da”. Mae’r pethau bach yma’n dangos i bawb bod defnyddio’r Gymraeg yn normal ac yn cael ei werthfawrogi.
Mae cynllun Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth i uwch-reolwyr i wneud hyn yn hyderus – gan roi’r wybodaeth a’r technegau i greu newid go iawn.
Cyfathrebu sy’n ysbrydoli
Mae’r ffordd rydyn ni’n siarad am y Gymraeg yn gallu cael effaith enfawr. Mae’n bwysig bod arweinwyr yn gosod y tôn – yn gadarnhaol, yn glir ac yn annog.
Mae llawer o bobl eisiau defnyddio mwy o Gymraeg ond ddim yn siŵr ble i ddechrau. Felly, pan fyddwch chi’n rhannu gwybodaeth neu’n cyflwyno newidiadau, meddyliwch sut i’w wneud mewn ffordd gadarnhaol. Defnyddiwch fodelau fel EAST (Easy, Attractive, Social, Timely) i helpu fframio’r neges mewn ffordd sy’n taro deuddeg ac sy’n dod â phobl gyda chi.
Defnyddio’r Gymraeg sydd gennych
Ceisiwch greu awyrgylch ble mae pawb yn gyfforddus yn defnyddio pa bynnag Gymraeg sydd ganddynt. Mae pob tamaid o Gymraeg yn cyfrif!
Gall pethau bach syml wneud gwahaniaeth a chreu arferion newydd:
- Dweud “Bore da” wrth gydweithwyr
- Dechrau neu orffen e-byst yn Gymraeg
- Trefnu sgwrs anffurfiol yn Gymraeg unwaith yr wythnos
Mae’r pethau yma’n adeiladu hyder ac yn creu diwylliant lle mae pawb yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio’r Gymraeg. Dros amser, gall hyn arwain at bobl yn teimlo’n fwy hyderus yn defnyddio’r Gymraeg mewn amgylchiadau mwy ffurfiol. A pheidiwch ag anghofio – mae gwersi Cymraeg a chefnogaeth gan gydweithwyr ar gael i helpu pawb i ddatblygu.
Sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o’r darlun mawr
Mae’n bwysig bod y Gymraeg yn cael ei hystyried wrth wneud penderfyniadau – nid rhywbeth sy’n cael ei ychwanegu ar y diwedd.
- Beth am wneud y Gymraeg yn eitem sefydlog ar agenda cyfarfodydd?
- Pwy all fod yn bencampwr dros y Gymraeg yn eich tîm? Beth am greu cynllun pencampwyr iaith o fewn eich sefydliad er mwyn bod pawb yn deall y rôl a’r disgwyliadau.
- Mae’r Gymraeg yn rhywbeth mae angen i bawb yn y sefydliad ystyried wrth wneud eu gwaith. Ydy pawb yn gwybod beth yw eu rôl o ran y Gymraeg – e.e. wrth recriwtio?
Dathlu llwyddiannau
Pan mae rhywun yn gwneud ymdrech i ddefnyddio’r Gymraeg – dathlwch!
Gallai hynny fod:
- Sesiwn anffurfiol i ddweud diolch
- Cynnwys mewn bwletin staff
- Gwobrau bach i gydnabod ymdrechion
- Beth bynnag sy’n gweithio i’ch sefydliad chi
Mae dathlu’n dangos bod y Gymraeg yn cael ei gwerthfawrogi, ac yn ysbrydoli eraill i roi cynnig arni hefyd.
Hyrwyddo diwylliant Cymraeg
Mae’r iaith a’r diwylliant yn mynd law yn llaw. Trwy rannu cerddoriaeth, llyfrau, digwyddiadau neu raglenni Cymraeg, gallwch agor drysau i bobl brofi rhywbeth newydd – neu ailgysylltu gyda rhywbeth oedd ganddyn nhw o’r blaen.
Beth am:
- Rhannu awgrymiadau ar y fewnrwyd
- Tynnu sylw at ddigwyddiadau fel Dydd Miwsig Cymru neu’r Eisteddfod
- Trefnu gweithgareddau bach i ddathlu’r diwylliant
Gwrando ar staff
Y ffordd orau i wybod beth sydd ei angen? Gofyn!
- Beth fyddai’n helpu pobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg?
- Beth sy’n eu dal nhw’n ôl?
- Oes syniadau ganddyn nhw ar gyfer gweithgareddau hwyliog?
Beth am sefydlu grŵp bach i drafod hyn? Gallai fod yn fan lle mae syniadau’n llifo a phawb yn teimlo’n rhan o’r daith.