
Mae cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i sefyllfaoedd ffurfiol gwaith yn bwysig er mwyn creu awyrgylch ble mae’r Gymraeg yn cael ei chlywed a’i defnyddio yn rheolaidd. Gall helpu i godi hyder siaradwyr, a rhoi cyfle i gymdeithasu yn y Gymraeg. Dros amser, gall newid arferion a gwneud pawb deimlo’n fwy parod i ddefnyddio’u Cymraeg yn y gweithle.
Dyma rai syniadau i chi drio:
Clwb clonc / Sesiwn siarad
Beth am drefnu sesiynau dros baned sy’n rhoi cyfle i bobl ymarfer eu Cymraeg? Gallwch ddewis pwnc neu thema ar gyfer bob sesiwn, neu roi cyfle i bawb sgwrsio fel maen nhw eisiau. Gall fod yn syniad da cael rhai siaradwyr mwy profiadol yn rhan o’r grŵp er mwyn hwyluso’r trafod. Dylai fod yn awyrgylch anffurfiol a chynhwysol ble mae pawb yn teimlo’n gyfforddus i roi cynnig arni.
Clwb darllen
Os oes cydweithwyr sy’n hoff o ddarllen, beth am greu clwb i drafod llyfrau Cymraeg? Cyfle gwych i gymdeithasu a defnyddio’r Gymraeg wrth ddarllen amrywiaeth o lyfrau difyr.
Gair Cymraeg yr wythnos
Defnyddio’r fewnrwyd, Teams neu debyg i rannu gair neu eiriau yn rheolaidd er mwyn annog i bawb ddefnyddio’r Gymraeg. Beth am wneud y gair yn un amserol, neu sy’n ymwneud â rhywbeth sy’n digwydd yn y gwaith neu’r gymuned ar y pryd?
Enwau Cymraeg
Rhoi enwau Cymraeg i gyfarfodydd, ystafelloedd, eitemau o gwmpas y swyddfa ayyb er mwyn cynyddu defnydd pawb o’r Gymraeg.
Rhestr Chwarae Caneuon Cymraeg
Nid ar gyfer Dydd Miwsig Cymru yn unig mae cerddoriaeth Gymraeg! Beth am greu rhestr chwarae o hoff ganeuon Cymraeg staff er mwyn codi ymwybyddiaeth o wahanol ganeuon Cymraeg?
Dathlu dyddiadau arwyddocaol
Beth am greu calendr o ddyddiadau sy’n arwyddocaol i’r Gymraeg? Dydd Gŵyl Dewi, Diwrnod Shwmae Su’mae, Dydd Miwsig Cymru, Dydd Santes Dwynwen, dyddiadau unrhyw wyliau cenedlaethol neu leol e.e. Eisteddfodau neu wyliau cerddorol
Cynllun mentora / cyfeillio
Gall partneru siaradwyr profiadol gyda rhywun sy’n dysgu fod yn ffordd effeithiol o annog defnydd a chynyddu hyder ar y ddau ochr. Gall fod yn braf cael cyfle i sgwrsio y tu allan i gyd-destun gwaith, er mwyn cynyddu’r arfer o wneud a gall gefnogi gwersi ffurfiol. Gall hyn drosglwyddo i ddefnydd cynyddol y tu allan i’r gwaith, mewn sefyllfaoedd cymdeithasol ac yn y cartref.
Cwis
Beth am gynnal cwis anffurfiol fel ffordd o annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg? Gallwch wneud wyneb yn wyneb, dros Teams neu trwy osod rhai ar eich mewnrwyd. Mae gan BBC Cymru Fyw nifer o gwisiau ar wahanol themâu.
Mae Cwis Bob Dydd yn ap hwyliog ble gallwch greu cynghrair i'r sefydliad neu eich tîm a chystadlu yn erbyn eich gilydd yn wythnosol.
Cymorth i siarad
Beth am osod ffeiliau sain o eiriau, termau a chyfarchiadau cyffredin ar y fewnrwyd i helpu pobl ynganu a rhoi hyder iddynt ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd? Gallwch amlygu gwahanol frawddegau a chyfarchiadau yn dymhorol neu’n wythnosol i’w cadw’n ffres.
Diwrnod blasu
Gallwch drefnu diwrnod blasu’r Gymraeg ble mae pawb yn cael eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod eu diwrnod. Rhannwch dermau cyfleus i’w rhoi mewn e-bost, neu wrth ddechrau cyfarfod ayyb.
Eisteddfod
Beth am gynnal Eisteddfod sefydliadol? Rhannwch dasgau hwyliog y gall unrhyw un rhoi cynnig arnynt a dewch at eich gilydd – wyneb yn wyneb neu’n rhithiol – i gymryd rhan. Gallwch gael cymysgedd o gystadlaethau llafar ac ysgrifenedig, a beth am gynnwys ambell un ffotograffig neu grefft er mwyn cynnwys pawb?
Mae Cronfa Loteri Gymunedol Cymru yn cynnal Eisteddfod flynyddol. Iddyn nhw mae’n cynnig,
“cyfle i ddod at ein gilydd a chael hwyl gan hefyd hybu’r iaith a chyflwyno’r cydsyniad o’r Eisteddfod i bobl newydd (mynychodd rai aelodau staff o du allan i Gymru). Cyfle da i hyrwyddo’r Gymraeg yn fewnol a thynnu sylw at ein darpariaeth ddwyieithog a’r ffaith ein bod yn cynnig cymorth i ddysgu Cymraeg yn y gweithle.”
Beth am roi cynnig ar rywbeth tebyg yn eich gweithle chi?
Cymraeg o gwmpas y gweithle
Os yn gweithio mewn swyddfa, beth am osod adnoddau byr ac anffurfiol, megis posteri neu eiriau, o gwmpas y swyddfa sydd yn cynnwys rhestr o gyfarchiadau a geiriau Cymraeg sylfaenol y byddai gweithwyr yn debygol o ddefnyddio yn ystod eu gwaith? Bydd modd iddynt gyfeirio nôl at yr adnoddau hyn yn hawdd.
Pencampwyr Iaith
Beth am benodi Pencampwyr Iaith i hwyluso defnydd o’r Gymraeg o fewn y gweithle? Gall pencampwyr rhannu gwybodaeth, ysgogi defnydd, hyrwyddo cynlluniau, digwyddiadau a mentrau perthnasol er mwyn rhoi gwybod i staff am gyfleoedd i ddefnyddio, clywed neu weld y Gymraeg.
Dylech osod ymrwymiadau yn glir yn eich Polisi Defnydd Mewnol o’r Gymraeg os oes un gan eich sefydliad. Mae adnoddau i’ch cynorthwyo i greu polisi ar gael yma.
Gallai rhoi rhai – neu dim ond un – o'r pethau yma arwain at gynnydd mewn defnydd o’r Gymraeg yn eich sefydliad. Beth am roi cynnig arnyn nhw?