Yn unol â’r egwyddor o gyd-reoleiddio, bydd y Comisiynydd yn gweithio i roi mwy o arweiniad a chefnogaeth i sefydliadau er mwyn gwella cydymffurfiaeth a gwella’r gwasanaethau sydd yn cael eu cynnig i’r cyhoedd.
Bydd hyn yn digwydd drwy gynllun hyrwyddo cydymffurfiaeth, a fydd yn cynnwys, ymysg pethau eraill, cyfres o ddigwyddiadau a sesiynau ar draws y flwyddyn. Byddwn hefyd yn datblygu adnoddau a chanllawiau ymarferol ac yn rhannu gwybodaeth yn rheolaidd gyda sefydliadau.
Bydd adran Cymorth ac Adnoddau’r wefan yn cael ei datblygu i adlewyrchu’r gwaith yma, a’r rhaglen ddigwyddiadau yn cael ei chyhoeddi yma.
Cynllun Hyrwyddo Cydymffurfiaeth 2026-2027
Rhaglen Ddigwyddiadau 2026-27
Dyma fanylion ar gyfer y digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal yn ystod 2026-27 i hyrwyddo cydymffurfiaeth. Bydd mwy o wybodaeth am amser, cynnwys a manylion cofrestru ac ymuno yn cael eu hanfon yn agosach at y dyddiadau ac unrhyw wybodaeth berthnasol yn cael ei ychwanegu yma.
Fforwm Cymraeg yn y Gweithle
- Cyfle i glywed am y dulliau a thechnegau mae sefydliadau yn defnyddio i hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn y gweithle.
- 8 Hydref
- Dros Teams
- Cysylltwch drwy anfon e-bost at post@cyg-wlc.cymru i dderbyn y ddolen i gysylltu.
Cynhadledd Genedlaethol Defnyddia dy Gymraeg
- Cynhadledd i rannu arferion da wrth hwyluso ac annog y defnydd o’r Gymraeg.
- 10 Tachwedd 2026
- Neuadd Reichel, Bangor
Technoleg a’r Gymraeg
- Digwyddiad i drafod y datblygiadau diweddaraf yn y maes technoleg a’r Gymraeg a sut gall technoleg a deallusrwydd artiffisial hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.
- Rhagfyr 2026
- Ar-lein
Fforwm Cymraeg yn y Gweithle
- Cyfle i glywed am y dulliau a thechnegau mae sefydliadau yn defnyddio i hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn y gweithle.
- Ionawr 2027
- Dros Teams
Fforwm Strategol Sector Iechyd
- Fforwm ar gyfer y Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd i drafod gweithrediad cynlluniau ymgynghoriadau clinigol Safon 110.
- 4 Mawrth 2027
- Dros Teams