Clawr Adroddiad 5 mlynedd, gyda delweddau o fathodyn iaith gwaith oren

Rydym yn gyfrifol am lunio adroddiad bob pum mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwnnw.

Dyma gyfle i edrych ar y prif ffactorau sydd wedi effeithio ar y Gymraeg rhwng 2016 a 2020.

Mae’r adroddiad hwn yn ceisio mesur cynnydd rhwng dau gyfrifiad, gan ganolbwyntio ar bedwar prif faes: statws yr iaith, cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, cynyddu defnydd o’r iaith, a’r seilwaith a chyd-destun angenrheidiol.

Symbol o arwydd bathodyn iaith gwaith, gyda thestun un o filiwn

Mae’n craffu ar waith Llywodraeth Cymru ac eraill er mwyn cyflwyno darlun cynhwysfawr o sefyllfa’r Gymraeg heddiw, gan ystyried a yw’r datblygiadau diweddaraf yn ddigonol er mwyn cyrchu’r miliwn o siaradwyr. Mae hefyd yn cynnwys dadansoddiad gwreiddiol o effaith cyflwyno hawliau cyfreithiol i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod pum mlynedd cyntaf eu gweithredu.

Eich gwaith chi a sefyllfa’r Gymraeg heddiw

Os hoffech chi gyfle i ystyried cyd-destun ehangach gwaith eich sefydliad o ran y Gymraeg a sefyllfa’r iaith heddiw, rydym ni ar gael i gynnig cyflwyniad yn trafod prif ddatblygiadau’r blynyddoedd diwethaf yn ymwneud â’r Gymraeg. Cysylltwch â ni i drefnu sesiwn.

Podlediad

Llun o blant ar ben mynydd

Sefyllfa’r iaith Gymraeg 2012–15 

Adroddiad 2012–15 oedd y cyntaf o’i fath wrth iddo roi sylw i sefyllfa’r Gymraeg yn y cyfnod rhwng sefydlu swyddfa’r Comisiynydd yn 2012 a diwedd 2015.  

Yn dilyn cyfrifiad, mae gofyn i’r adroddiad ddadansoddi’r ystadegau swyddogol am nifer y siaradwyr Cymraeg, ac felly trafodir canlyniadau Cyfrifiad 2011 yma. 

Block background image

Adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg.

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad 5-mlynedd yn cyflwyno ystadegau ac ymchwil am y Gymraeg.

Adroddiad 5-mlynedd 2016–20
Block background image

Sefyllfa'r Gymraeg 2016-21: crynodeb gweithredol

Rydym wedi cyhoeddi crynodeb o'n hadroddiad 5-mlynedd

Crynodeb gweithredol