Beth yw sefyllfa’r Gymraeg heddiw?

5

Bydd y Comisiynydd yn ceisio ateb y cwestiwn hwn dros y flwyddyn sydd i ddod wrth i ni baratoi yr adroddiad 5-mlynedd nesaf am sefyllfa’r Gymraeg. Mae’n rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi adroddiad bob pum mlynedd yn amlinellu sefyllfa’r iaith a bydd yr adroddiad nesaf yn adrodd ar y cyfnod rhwng 2020 a 2025. Meddyliwch gymaint mae’r byd wedi newid yn y cyfnod hwnnw! Ein gwaith ni fydd ceisio dod i gasgliadau ynghylch y graddau mae sefyllfa’r Gymraeg wedi newid yn yr un cyfnod.  

Bydd gofyn i’r adroddiad nesaf ddadansoddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 hefyd a bydd y Dashfwrdd Data ar ein gwefan yn gymorth wrth i ni fynd ati i lunio’r dadansoddiad hwnnw. Ond rydym ni am glywed gennych chi hefyd er mwyn gwneud yn siŵr bod yr adroddiad yn adlewyrchu profiadau go iawn pobl o fyw yn Gymraeg heddiw. Rydym hefyd yn awyddus i rannu  hanesion am sut mae sefydliadau o bob math yn arloesi ac yn mentro wrth hybu a hwyluso’r Gymraeg. Os oes gennych chi stori neu ddarn o waith rydych chi’n awyddus i ni roi sylw yn yr adroddiad cysylltwch â ni drwy post@cyg-wlc.cymru neu llenwch yr holiadur syml hwn:

 

Ydych chi wedi defnyddio’r adroddiad 5-mlynedd diwethaf wrth eich gwaith?