Pwysigrwydd ymchwil
Rydym yn ymgymryd â gwaith ymchwil i sawl agwedd wahanol ar y Gymraeg er mwyn:
- cefnogi ein gwaith dylanwadu ar bolisi;
- llunio nodiadau polisi ac ymateb i ymgynghoriadau mewn modd ystyrlon;
- llunio adroddiadau sy’n dangos sut mae sefydliadau’n perfformio a beth yw profiad defnyddwyr o wasanaethau Cymraeg;
- cynhyrchu adnoddau i gynorthwyo ac annog sefydliadau, elusennau a busnesau o bob math i ddefnyddio’r Gymraeg;
- llunio adroddiad statudol bob 5 mlynedd am sefyllfa’r iaith Gymraeg.
Mae’r Comisiynydd a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth ac adnabod cyfleoedd i gydweithio ar ystadegau ac ymchwil yn ymwneud â’r Gymraeg, lle bo hynny’n briodol. Gweld ein fframwaith.
Ystadegau am niferoedd siaradwyr a defnydd o’r Gymraeg
Y cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell awdurdodol ar gyfer gwybodaeth am y niferoedd o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Gallwch ddod o hyd i ystadegau am ddefnydd o’r Gymraeg yng nghanlyniadau’r Arolwg Defnydd Iaith a gynhaliwyd ar y cyd rhyngom ni a Llywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd yn 2015. Bu’n rhaid dod ag Arolwg Defnydd Iaith 2019–20 i ben yn gynnar oherwydd COVID-19 ac felly nid yw’r data a gasglwyd yn gyflawn ac ni ellir ei gymharu â chanlyniadau’r arolwg blaenorol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cywain gwybodaeth ystadegol am y Gymraeg a dadansoddiadau defnyddiol ar sail arolygon cenedlaethol blynyddol ar wefan StatsCymru. Mae yno hefyd adran sy’n dwyn ynghyd ffynonellau data eraill am y Gymraeg a dolenni at wefannau allanol defnyddiol fel InfoBaseCymru sy’n cael ei gynnal gan Data Cymru.
Sut gall academyddion gyfrannu at waith y Comisiynydd?
Mae ein diddordebau ymchwil am y Gymraeg yn helaeth ac mae ymgysylltu academaidd a chyfnewid gwybodaeth yn gallu bod o fudd i ymchwilwyr academaidd ac i’r Comisiynydd fel ei gilydd.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am ein blaenoriaethau polisi ac ymchwil neu os oes gennych chi waith ymchwil yr hoffech ei rannu â ni, yna cysylltwch â ni.