Cynyddu Defnydd

Beth ydym ni eisiau ei weld?    

 

Pob sefydliad sy’n gweithredu safonau’r Gymraeg yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn fewnol, ac yn galluogi staff i fyw bywyd gwaith cyflawn drwy’r Gymraeg 

Pob man gwaith yn cynyddu cyfleodd i ddefnyddio’r Gymraeg rhwng staff a gyda defnyddwyr.  

Mwy o sefydliadau’n defnyddio’r Gymraeg fel prif iaith gweithredu mewnol, a chynnal y sefyllfa honno lle mae eisoes yn weithredol.   

Mae adnoddau a gwybodaeth defnyddiol am gamau y gallwch eu cymryd i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn eich sefydliad ar gael o dan y penawdau isod:

Arweinyddiaeth 

 

Mae arweinyddiaeth gref yn bwysig wrth osod disgwyliadau ac arwain drwy esiampl er mwyn creu awyrgylch gadarnhaol tuag at y Gymraeg o fewn sefydliad. 

Gweler ganllaw a chymorth i gadeirio cyfarfodydd yn Gymraeg

Mae nifer o syniadau yn y canllaw hwn gan Gyngor y Celfyddydau.

Magu Hyder  

 

Y camau bach y gall pawb eu cymryd i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg a sut y gall cyflogwyr annog hynny.  

Seilwaith weinyddol

 

Trwy osod seilwaith gadarn gyda gweinyddiaeth, adnoddau dynol a defnydd o dechnoleg, gallwch hwyluso ac annog mwy o ddefnydd iaith a magu hyder pawb wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae’r safonau yn gofyn bod eich gweinyddiaeth mewnol yn caniatáu i swyddogion ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymdrin â materion cyflogaeth. Maent hefyd yn gofyn bod mynediad at dechnoleg yn Gymraeg, ac yn hwyluso defnydd o’r Gymraeg.