Er mwyn gallu cynnig gwasanaethau dwyieithog o safon uchel, mae angen i sefydliadau sicrhau bod gan eu gweithlu y sgiliau cywir. Mae nifer o safonau yn gosod gofynion penodol ar sefydliadau i ystyried yr angen am sgiliau Cymraeg wrth recriwtio ac i asesu sgiliau staff.
Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi Dogfen Gyngor yn amlygu Arferion Da Recriwtio.
Byddwn yn tynnu eich sylw yma at arferion da ac yn ateb cwestiynau dan y penawdau hyn:
Cwestiynau cyffredin ar gyfer sefydliadau sy’n gweithredu Safonau’r Gymraeg
Os yw penodi unigolion gyda sgiliau Cymraeg priodol yn broblem i sefydliad, mae angen rhoi ystyriaeth i’r broses recriwtio a lle mae’r corff yn hysbysebu swyddi. Mae angen i sefydliadau addasu eu ffyrdd o recriwtio er mwyn cyrraedd siaradwyr Cymraeg yn eu hardaloedd.
Mae croeso i chi gysylltu efo Swyddog Cyswllt eich sefydliad yn Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg os oes unrhyw gwestiynau eraill gennych chi.
Hyfforddiant i ddatblygu sgiliau staff
Mae’r safonau’n ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gynnig hyfforddiant sy’n meithrin sgiliau Cymraeg staff yn y gwaith.
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig cefnogaeth i ddatblygu sgiliau Cymraeg ac i ddatblygu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Arferion da datblygu gweithlu
Mae nifer o gyrff yn datblygu sgiliau Cymraeg staff fel rhan o’u hymrwymiad i’r Gymraeg ac er mwyn gwella lefelau sgiliau eu staff i allu cynnig gwasanaethau Cymraeg. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd y bwrdd iechyd cyntaf i gyflogi tiwtor iaith Gymraeg mewnol. Rôl y tiwtor yw creu a theilwra cyrsiau addas ar gyfer anghenion staff y bwrdd iechyd. Drwy weithio gyda’r tiwtor mae’r dysgwyr yn gwella eu sgiliau iaith a chynyddu eu hyder er mwyn gallu defnyddio eu Cymraeg yn y gweithle a thu hwnt.

Gall datblygu sgiliau staff gyfrannu at gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn fewnol:
Roedd Coleg y Cymoedd yn awyddus i gynyddu’r nifer o staff oedd yn defnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith. Roedd nifer o staff wedi mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac yn siaradwyr Cymraeg er nad oeddynt yn ei defnyddio wrth eu gwaith. Penderfynodd y Coleg ddatblygu cynllun er mwyn annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg wrth eu gwaith.
Asesu Sgiliau Staff
Mae’r safonau yn gofyn i bob sefydliad asesu sgiliau Cymraeg eu staff.
Yn cod ymarfer Rheoliadau rhif 1, mae’r Comisiynydd yn rhoi arweiniad ar hyn ac yn amlygu pam bod asesu sgiliau staff yn bwysig.
Gall canlyniadau’r asesiad alluogi corff i gynllunio ei weithlu fel bod lefelau digonol o sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer ymateb i unrhyw anghenion drwy:
- adnabod beth yw sgiliau iaith Gymraeg presennol y gweithlu, a thrwy hynny, adnabod pwy all ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg
- adnabod beth yw anghenion y corff o ran sgiliau Cymraeg, gan gynnwys asesu’r angen am sgiliau yn y Gymraeg ar gyfer swydd newydd neu swydd wag yn unol â safon 136, a
- cynllunio i gynnal a chynyddu sgiliau Cymraeg y gweithlu i ateb yr anghenion hynny.
Nid ydym yn gosod gofynion o ran defnyddio unrhyw fframwaith benodol nac yn nodi sut yn union y bydd sefydliad yn mynd ati i asesu sgiliau ei staff, gan fod hynny i raddau yn dibynnu ar adnoddau a gweithdrefnau y sefydliad ei hun.
Mae’r Cod Ymarfer serch hynny yn nodi’r canlynol:
Fel arfer, mae lefelau sgiliau Cymraeg yn cael eu cofnodi yn unol â fframwaith cydnabyddedig. Mae’r Comisiynydd yn dymuno gweld rhagor o gysondeb yn y modd y cofnodir sgiliau Cymraeg cyflogeion, er mwyn hwyluso casglu data am y gweithlu dwyieithog. Er mwyn sicrhau cysondeb cenedlaethol yn y modd y mae cyrff yn asesu sgiliau iaith Cymraeg cyflogeion, gall cyrff ddewis gwneud yr asesiad ar sail Fframwaith Cyfeirio Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR) i’r dyfodol.