Y system addysg a hyfforddiant yw’r prif ddull o greu siaradwyr Cymraeg. Yn ei strategaeth Cymraeg 2050 gosododd y Llywodraeth darged ar gyfer cynyddu cyfran y dysgwyr sy’n gadael addysg statudol yn gallu siarad Cymraeg i 70% (25,000) erbyn 2050. Gosododd hefyd dargedau uchelgeisiol ar gyfer cynyddu niferoedd yr athrawon sy’n addysgu’r Gymraeg fel pwnc neu’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cynradd ac uwchradd.
Rhan hollbwysig o hyn yw sicrhau bod cynifer â phosibl o blant yn derbyn gofal ac addysg blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg fel eu bod yn fwy tebygol o drosglwyddo i dderbyn eu haddysg statudol yn Gymraeg. Rydym yn awyddus i sicrhau bod polisïau blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r amcan hwn.
Un arall o dargedau strategaeth Cymraeg 2050 yw cynyddu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg ac un o’r mannau pwysig ar gyfer hynny yw’r gweithle. Mae gan y sector ôl-16 ac addysg uwch rôl hollbwysig wrth bontio’r defnydd o’r Gymraeg o’r byd addysg i mewn i fyd gwaith. Byddwn yn ceisio dylanwadu ar bolisïau yn y sectorau hyn i sicrhau bod cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn colegau, prifysgolion ac mewn dysgu seiliedig ar waith.
Gwyliwch y fideo isod o'n digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron i gofio’r diweddar Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg rhwng 2019 a 2022. Roedd y digwyddiad yn talu teyrnged i Aled a’i waith dros y Gymraeg ac yn benodol ym myd addysg.
Mae ein gwaith allweddol diweddar yn y maes hwn yn cynnwys:
- Argymhellion ar gyfer cynyddu sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu addysg.
- Ymateb i ymgynghoriadau ar greu cwricwlwm newydd i Gymru gan geisio sicrhau y byddai’n arwain at greu siaradwyr Cymraeg hyderus.
- Hwyluso mynediad at addysg Gymraeg drwy drefniadaeth teithio hygyrch.
Cyhoeddiadau diweddar:
Y Gymraeg a'r gweithlu addysg statudol
Tystiolaeth Comisiynydd y Gymraeg i Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar
egwyddorion cyffredinol Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)