Os ydych chi’n dymuno cyfathrebu yn Gymraeg gydag unigolyn arall, dylech fod yn gallu gwneud hynny heb ymyrraeth.
Mae rhywun yn ymyrryd â’ch rhyddid os ydyn nhw'n:
- Dweud wrthych am beidio â defnyddio’r Gymraeg;
- Dweud y byddwch yn dioddef mewn rhyw ffordd oherwydd eich bod yn defnyddio’r Gymraeg.
Gallwch gyflwyno cais i'r Comisiynydd i ymchwilio a yw unigolyn neu sefydliad wedi ymyrryd â’ch rhyddid i gyfathrebu gydag unigolyn arall yn Gymraeg.
Mae’r Comisiynydd yn gallu ystyried ymchwilio i unrhyw sefydliad. Mae hyn yn cynnwys busnesau ac elusennau yn ogystal â sefydliadau cyhoeddus.
Pa wybodaeth ddylwn i ei roi wrth gysylltu?
- Disgrifiwch yr achos;
- Nodwch pwy oedd yn gyfrifol am ymyrryd â’ch rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg;
- Darparwch unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth arall perthnasol.
Bydd y Comisiynydd yn ystyried y dystiolaeth a bydd yn penderfynu a oes sail i ymchwilio ai peidio. Os mai’r penderfyniad yw i ymchwilio, bydd yn dod i farn ar yr ymyrraeth.
Os yw’r Comisiynydd yn dyfarnu bod ymyrraeth wedi digwydd, bydd yn rhoi ei farn ar ba raddau y gellid cyfiawnhau’r ymyrraeth. Mae hefyd yn gallu rhoi cyngor i geisio atal hyn rhag digwydd eto.