Cyfrifiad 2021

Cynhaliwyd y cyfrifiad ar 21 Mawrth 2021. Y cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell wybodaeth am nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae strategaeth Cymraeg 2050 y Llywodraeth yn datgan yn glir bod y llwybr at filiwn o siaradwyr Cymraeg wedi’i seilio ar ddata Cyfrifiad 2011, ac mai data cyfrifiad fydd yn cael ei ddefnyddio i olrhain cynnydd at y miliwn. 

Graffeg o ffon a gliniadur gyda symbol Iaith Gwaith

Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn dangos bod 17.8% o boblogaeth Cymru yn gallu siarad Cymraeg. Mae hynny’n 538,300 o bobl tair oed neu’n hŷn. Dyma’r ganran isaf erioed i’w chofnodi mewn cyfrifiad, ond nid dyma’r nifer isaf i’w gofnodi o siaradwyr Cymraeg. Wedi dweud hynny, mae’r niferoedd wedi bod yn gostwng ers 2001.

Mae data’r cyfrifiad hefyd yn datgelu llawer wrthym am bwy sy’n siarad Cymraeg, beth yw eu hoed, ble maen nhw’n byw a pha swyddi maen nhw’n eu gwneud. 

Pwyntiau allweddol:

  • Ar ddiwrnod y cyfrifiad, maint y boblogaeth breswyl yng Nghymru oedd 3,107,500; dyma'r boblogaeth fwyaf a gofnodwyd erioed drwy gyfrifiad yng Nghymru.
  • Gwelwyd y gostyngiad mwyaf yn y ganran o siaradwyr Cymraeg yn y categori oed 5–15, o 40.3% yn 2011 i 34.3% yn 2021.
  • Gwelwyd cynnydd bychan yn y ganran o siaradwyr Cymraeg yn y categorïau oed 16–19 (o 27.0% yn 2011 i 27.5% yn 2021) a 20–44 (o 15.6% yn 2011 i 16.5%).
  • Yr awdurdodau lleol â’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg oedd Gwynedd (64.4%), Ynys Môn (55.8%) a Cheredigion (45.3%). Yr awdurdodau lleol â’r canrannau isaf o siaradwyr Cymraeg oedd Blaenau Gwent (6.2%), Casnewydd (7.5%) a Thorfaen (8.2%).
  • Yr awdurdodau lleol â’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg oedd Gwynedd (73,600), Sir Gâr (72,800) a Chaerdydd (42,757). Yr awdurdodau lleol â’r niferoedd isaf o siaradwyr Cymraeg oedd Blaenau Gwent (4,000), Merthyr Tudful (5,100) a Thorfaen (7,400).
  • Gwelwyd cynnydd bychan yn y ganran o siaradwyr Cymraeg mewn tair awdurdod lleol ers 2011: Caerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf. Arhosodd y ganran yn gyson ym Merthyr Tudful tra y gostyngodd y ganran ym mhob awdurdod lleol arall yng Nghymru.

Darllenwch am ymateb cychwynnol y Comisiynydd i’r canlyniadau yma.

Block background image

Effaith canlyniadau Cyfrifiad 2021 ar waith Comisiynydd y Gymraeg

Darllen yma

Mae modd darllen rhagor am y canlyniadau a dadansoddiadau Llywodraeth Cymru fan hyn:

I ddod o hyd i ganlyniadau ynghylch sgiliau Cymraeg mewn ardaloedd penodol, chwiliwch fapiau’r ONS isod (dolenni i wefannau Saesneg yn unig):

Gallu i siarad Cymraeg – Mapiau’r Cyfrifiad, ONS

Creu proffil ar gyfer ardal benodol - Cyfrifiad 2021, ONS

Mae ystadegau am y Gymraeg o’r cyfrifiad ac arolygon eraill yn cael eu casglu ynghyd yn hwylus ar wefan StatsCymru.

Cyfrifiadau'r Gorffennol