Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi datgan siom yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 sydd yn dangos lleihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Nododd y cyfrifiad fod 538,300 yn datgan eu bod yn siarad Cymraeg ac mae hynny yn lleihad o 23,700 yn y niferoedd o'r ffigwr yn 2011. Fel canran mae wedi disgyn o 19.0% i 17.8%, sef y ganran isaf erioed i’w chofnodi mewn cyfrifiad.

Yn ôl Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, mae hyn yn profi fod gwaith sylweddol i’w wneud,

“Mae’r canlyniadau hyn yn naturiol yn siomedig dros ben ac mae’n golygu nad yw’r cynlluniau sydd ar waith gan y Llywodraeth, awdurdodau lleol a phartneriaid perthnasol yn ddigonol fel y maent ar hyn o bryd ac nad ydynt yn cael yr effaith angenrheidiol.

“Mae’n glir fod angen edrych eto ar weithredu’r strategaeth a byddai’r Comisiynydd yn croesawu bod yn rhan o’r drafodaeth sydd ei hangen ynghylch sut mae diwygio a chryfhau’r strategaeth a defnyddio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i’w llawn botensial.

“Mae lleihad yng nghanran y boblogaeth 3-15 oed oedd yn dweud eu bod yn medru’r Gymraeg yn anffodus yn profi nad yw’r diwygiadau yn y maes addysg statudol ar hyn o bryd yn ddigonol. Nid oes chwaith gwir gynnydd wedi bod yng nghanran y disgyblion sydd yn derbyn addysg Gymraeg.

“Rhaid felly i’r Bil Addysg Gymraeg arfaethedig wneud mwy na chyflwyno mân addasiadau i’r gyfundrefn bresennol, gan warantu cyfle i bob dysgwr ddatblygu’n siaradwyr Cymraeg hyderus.

“Rwyf yn cydnabod i Gyfrifiad 2021 gael ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws gan ddilyn cyfnodau clo a chyfnodau dysgu o bell i blant, a gallai hynny fod wedi cael effaith ar y sgiliau Cymraeg a nodwyd gan rieni, a chanfyddiad o sgiliau Cymraeg eu plant er enghraifft.

“Er hynny ni ddylai’r rhesymau hyn guddio’r ffaith fod diffyg cynnydd ystyrlon wedi bod yng nghyfraniad y sector addysg i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a byddai’n annoeth priodoli’r canlyniadau siomedig hyn i effeithiau’r pandemig yn unig.

“Rwyf yn derbyn bod rhai ffactorau eraill y tu hwnt i afael Llywodraeth Cymru sy’n milwrio yn erbyn ei hymdrechion. Ond mae hynny’n golygu fod rhaid i’r Llywodraeth fuddsoddi llawer mwy yn y materion sydd o fewn ei allu i ddylanwadu arnynt.

“Roedd mwy o bobl a anwyd y tu allan i Gymru yn byw yma yn 2021 nag yn 2011 ac ar sail cyfrifiadau blaenorol gwyddom fod pobl a anwyd y tu allan i Gymru yn llawer llai tebygol o nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg na phobl a anwyd yng Nghymru.

“Mae’n gadarnhaol nodi fod cynnydd yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn rhai o ardaloedd y de-ddwyrain a bydd dadansoddi pellach yn gymorth i ni ddeall y rhesymau dros hynny.

“Mae’n eglur fod angen parhau i fuddsoddi yn ein cymunedau traddodiadol Cymraeg. Rwyf yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru sydd wedi cydnabod pwysigrwydd yr ardaloedd hyn i’r Gymraeg drwy sefydlu Comisiwn Cymunedau Cymraeg a buddsoddi yn Arfor 2. Ond dengys y canlyniadau hyn nad yw hynny am fod yn ddigonol ac mae angen ystyried ymhellach y gefnogaeth all gael ei gynnig i’n cymunedau.”

“Mae’r nod o filiwn o siaradwyr erbyn y flwyddyn 2050 o fewn ein cyrraedd o hyd ond bydd angen cynyddu’r ymdrechion dros y blynyddoedd nesaf os am weld gwireddu’r ffigwr hwnnw.”

Gellir darllen rhagor am ganlyniadau Cyfrifiad 2021 yma.

Mae adroddiad 5-mlynedd diwethaf y Comisiynydd hefyd yn dadansoddi’r sefyllfa Gymraeg yn y blynyddoedd 2016–20 a bydd yr un nesaf yn mynd i’r afael yn llawn â chanlyniadau Cyfrifiad 2021. Gallwch ddarllen yr adroddiad diweddaraf yma.