Ar ôl i sefydliad dderbyn hysbysiad cydymffurfio, gall herio ac apelio yr angen i gydymffurfio â safon os nad yw’n cytuno bod y dyletswyddau yn rhesymol a chymesur.
Cyflwyno her
Y cam cyntaf yw cyflwyno her i’r Comisiynydd. Mae modd gwneud hynny cyn neu ar ôl y ‘diwrnod gosod’ sef y dyddiad y mae’r ddyletswydd yn dod yn weithredol.