
Dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn ddarostyngedig i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r dyletswyddau cydraddoldeb sy’n benodol i Gymru a nodir yn Rheoliadau 2011.
Mae data cydraddoldeb sector cyhoeddus y Comisiynydd wedi ei gyhoeddi ar ffurf ffynhonnell agored.
I weld rhagor o wybodaeth am waith cydraddoldeb y Comisiynydd, darllenwch y Cynllun Cydraddoldeb a’r Amcanion Cydraddoldeb Strategol.
Mae’r Comisiynydd yn adrodd yn flynyddol ar gyflawniad yn erbyn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’r adroddiad corfforaethol blynyddol.