Eleni, mae ymgyrch 'Defnyddia dy Gymraeg' yn rhedeg rhwng 27 Tachwedd a 11 Rhagfyr. Dyma gyfle i sefydliadau o bob math ar draws Cymru hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg. Mae’r ymgyrch hefyd yn annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.

Nod yr ymgyrch yw annog pawb i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt, ac i fusnesau, elusennau a sefydliadau o bob math hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’r cyhoedd.
Dylid annog pobl o bob oed o bob cefndir ar draws Cymru i ddefnyddio eu Cymraeg bob dydd - gartref, yn y gwaith, yn y siop, wrth gymdeithasu, dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Eisiau cymryd rhan yn yr ymgyrch?
Rydym yn gweithio gyda sefydliadau ar draws Cymru i dynnu sylw at y gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i'r cyhoedd.
Os hoffech gymryd rhan yn yr ymgyrch, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Mae gwaith rheoleiddio sefydliadau cyhoeddus gan y Comisiynydd yn arwain at fwy o wasanaethau ar gael yn y Gymraeg, ac mae angen sicrhau bod siaradwyr y Gymraeg yn hyderus i fedru defnyddio’r iaith.
Mae’r cydweithio gyda busnesau ac elusennau drwy gynllun y Cynnig Cymraeg, hefyd yn cynyddu’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael ganddyn nhw.
Mae cynyddu gwasanaethau Cymraeg a’u hyrwyddo yn allweddol i sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.