Iechyd

Nyrs yn gadael mewn ffolder glas

Angen, nid dewis, yw derbyn gwasanaeth iechyd a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir cydnabyddiaeth lefel uchel o’r angen hwn yn fframwaith strategol y Llywodraeth, Mwy na Geiriau: ‘Mae gofal ac iaith yn mynd law yn llaw a gellir peryglu ansawdd y gofal drwy fethu â chyfathrebu â phobl yn eu hiaith gyntaf.’ 

Doctor yn eistedd wrth ddesg

Er yr ymrwymiad hwn gan y Llywodraeth i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y maes iechyd a gofal a bod safonau’r Gymraeg yn eu lle ar gyfer y sector, nid oes sicrwydd y bydd pobl yn gallu derbyn gwasanaethau iechyd a gofal yn Gymraeg. Mae angen llawer mwy o weithredu a chyllid i sicrhau bod hynny yn digwydd gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau iaith y gweithlu.

Mae ein gwaith allweddol diweddar yn y maes hwn yn cynnwys: 

  • Argymhellion ar wella gwasanaethau iechyd a gofal i bobl sy’n byw â dementia. 
  • Codi’r ymwybyddiaeth o’r angen i asesiadau poblogaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 roi gwell ystyriaeth i anghenion gofal siaradwyr Cymraeg. 
  • Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd datblygu gweithlu iechyd a gofal sy’n gallu darparu gwasanaethau yn y Gymraeg.

Mae cyhoeddiadau diweddar yn cynnwys Gofal dementia siaradwyr Cymraeg

Angen, nid dewis, yw derbyn gwasanaeth iechyd a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nid oes sicrwydd ar hyn o bryd y bydd pobl yn gallu derbyn gwasanaethau iechyd a gofal yn Gymraeg.

Mae angen llawer mwy o weithredu a chyllid i sicrhau gwasanaethau iechyd a gofal yn y Gymraeg.