Mae’n rhaid i’r mwyafrif o sefydliadau cyhoeddus sydd yn gweithredu yng Nghymru ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.
![Gwasanaeth Cymraeg wrth dderbynfa](/media/4m2dfjhs/dsc9551-ansawddgwefan.jpg?anchor=center&mode=crop&width=650&height=430&rnd=132711701314900000)
Dyma ambell enghraifft o wasanaethau sydd ar gael i chi:
- Gohebiaeth
- Galwadau ffôn
- Llinellau cymorth a chanolfannau galwadau
- Cyfarfodydd personol
- Cyfarfodydd cyhoeddus
- Gwefannau a gwasanaethau ar-lein
- Arwyddion
- Codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael
![Myfyrwyr wrth Brifysgol Bangor](/media/hqaordph/dsc0047-ansawddgwefan.jpg?anchor=center&mode=crop&width=650&height=430&rnd=132711588303830000)
Mewn nifer o achosion mae hefyd angen i sefydliadau:
- Hybu'r defnydd o’r Gymraeg;
- Rhoi cyfleoedd i’w staff ddefnyddio neu ddatblygu sgiliau yn yr iaith;
- Ystyried effaith ar y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau polisi;
- Bod yn atebol i Gomisiynydd y Gymraeg ac i bobl sy’n defnyddio’u gwasanaethau.