Cynnal ymchwil
Rydym wedi cynnal sawl darn allweddol o ymchwil dros y blynyddoedd ar feysydd sy’n ymwneud â busnesau ac elusennau.
Gweithiwyd gyda nifer o gwmnïau ymchwil annibynnol. Mae’r adroddiadau isod yn dangos yr amryw fuddion o gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg ond hefyd yr heriau a’r anawsterau a wynebir.

Y Gymraeg – eich arf codi arian
Sut mae defnyddio’r Gymraeg yn helpu elusennau i godi arian.
Ymchwil elusennau
Mae ymchwil gan Sefydliad Cymorth Elusennol wedi canfod fod y ganran sy’n ymddiried mewn elusennau yn uwch ymysg pobl sy’n gefnogol i’r Gymraeg.
Os hoffech ragor o wybodaeth am yr ymchwil hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dyma ambell ffigwr o'r ymchwil:
o bobl rhwng 16-34 oed yng Nghymru yn credu y dylai elusennau weithredu'n ddwyieithog.
o bobl yng nghanolbarth a gorllewin Cymru y dylai elusennau weithredu'n ddwyieithog.
o siaradwyr Cymraeg yn credu y dylai elusennau weithredu'n ddwyieithog.
Ymchwil

Y Gymraeg: Yr Achos Busnes
Mae’r adroddiad hwn ar gyfer arweinwyr busnes sydd eisiau datblygu ac ehangu yng Nghymru. Mae’n edrych ar y galw gan gwsmeriaid am wasanaethau Cymraeg, barn arweinwyr busnes a sut gall y Comisiynydd eich helpu i dyfu a ffynnu.

Y Gymraeg yn y fasged siopa
Agweddau cwsmeriaid at ddefnydd o'r Gymraeg gan archfarchnadoedd

Gwerth y Gymraeg i'r sector bwyd a diod yng Nghymru - Adroddiad ymchwil
Mae cynnyrch bwyd a diod o'r safon gorau yng Nghymru ond beth yw rôl y Gymraeg?
Holwyd amryw o fusnesau ar draws Cymru am eu defnydd nhw o'r Gymraeg - o frandio a marchnata i wasanaeth cwsmer a staffio - er mwyn deall yn well beth yw gwerth y Gymraeg i'w busnes.

Cymraeg banciau'r stryd fawr yng Nghymru
Comisiynwyd yr adolygiad hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg yn dilyn cynnydd sylweddol yn y nifer o gwynion a dderbyniwyd ganddi am wasanaethau bancio yn ystod 2014.
Mae'r adolygiad yn cynnig wyth argymhelliad ymarferol ar gyfer y banciau stryd fawr er mwyn gwella eu gwasanaethau Cymraeg.