Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg ac felly ein prif waith yw sicrhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’n bwysig cadw mewn cof nad yw’r Cyfrifiad yn mesur defnydd iaith unigolion, mae arolygon pwysig eraill yn mesur amlder defnydd, er enghraifft Arolwg Cenedlaethol Cymru | LLYW.CYMRU.
Ond er mwyn cynyddu defnydd mae’n hanfodol ein bod yn deall pwy sy’n siarad Cymraeg, ble maen nhw’n byw, beth yw eu hoed, beth yw eu gwaith ac ati. Mae’r Cyfrifiad yn cynnwys gwybodaeth hollbwysig am siaradwyr Cymraeg fydd yn dylanwadu ar ein gwaith dros amser.
Bydd y Comisiynydd yn defnyddio canlyniadau Cyfrifiad 2021:
- Yn sbardun i barhau i godi statws y Gymraeg a meithrin agweddau cadarnhaol at y Gymraeg fydd yn annog pobl i’w dysgu a’i throsglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.
- Yn gyd-destun hanfodol wrth lunio ein cynllun strategol nesaf.
- Yn sylfaen i bob gwaith dylanwadu ar bolisi, yn benodol ym meysydd datblygu economaidd, cynllunio a thai, trosglwyddo iaith, ac addysg.
- Wrth drafod cydymffurfiaeth awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol â’r safonau hybu sy’n creu gofyniad iddynt gyhoeddi strategaethau 5-mlynedd i hybu a hwyluso’r Gymraeg yn eu hardaloedd.
- I barhau â’r drafodaeth am ethnigrwydd a’r Gymraeg gan bwysleisio’r angen i natur amlethnig y gymuned o siaradwyr Cymraeg gael ei hadlewyrchu ym mhob agwedd ar waith y Comisiynydd ac yn ein gweithlu.
- I gyflwyno gwybodaeth gyfoes am y Gymraeg a’i siaradwyr i gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.
- I ddatblygu adnoddau hawdd eu deall fydd ar gael ar ein gwefan yn fuan iawn.
Dadansoddiad annibynnol o ganlyniadau Cyfrifiad 2021
Yn ogystal â’r uchod, mae gan y Comisiynydd gyfrifoldeb statudol i lunio adroddiad bob 5 mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn nodi bod yn rhaid i adroddiad a gyhoeddir ar ôl cyfrifiad gynnwys adroddiad ar ganlyniadau'r cyfrifiad ac asesiad o oblygiadau'r canlyniadau hynny i sefyllfa'r Gymraeg. Bydd yr adroddiad 5-mlynedd nesaf felly yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 2021–25 ac yn rhoi sylw manwl i ganlyniadau Cyfrifiad 2021 a’r hyn maen nhw’n ei ddatgelu am sefyllfa’r Gymraeg.